Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYNHADLEDD GYD-GENEDLAETHOL AR Y TESTAMENT NEWYDD Ym mis Medi (11-15) 1961, yn Rhydychen, cynhaliwyd yr Ail Gyngres Gyd-genedlaethol ar Astudiaeth y Testament Newydd, o dan drefniant yr Athro F. L. Cross. Bu'r gyntaf yn 1957 ar astud- iaeth yr Efengylau, a chyhoeddwyd detholiad o'r papurau a rodd- wyd ynddi yn y gyfrol The Gospels Reconsidered (Blackwell, 1960). Daeth cynrychiolaeth eang ac amrywiol iawn ynghyd i'r ail gyngres hon. Yn ôl rhestr enwau'r rhai oedd wedi bwriadu bod yno, yn llawlyfr y gynhadledd, gellir amcangyfrif bod rhywbeth yn debyg i 600 o bobl yn bresennol, a thystia'r manylion amdanynt eu bod bron o bedwar ban y byd, ac o draddodiadau eglwysig amryw- iol, yn cynnwys Eglwys Rufain a'r eglwysi Dwyreiniol Uniongred. Pe cawsai'r efengylydd Luc ymweld â ni, diau y lluniasai "roll-call" mor effeithiol â'r un yn Actau ii, 9-11, a gellid dweud mai "mawrion weithredoedd Duw" a ddaeth â'r dyrfa hon hefyd ynghyd, ac a oedd yn brif destun ei myfyrdod. Trefnwyd gweithgarwch y Gyngres yn dair rhan, sef y "Rhaglen gyffredinol" (a oedd yn agored i'r holl aelodau), ac yna i grwpiau llai eu nifer yr oedd trafodaethau o "Master themes" (sawl papur ar destunau yn yr un maes) a thrachefn "cyfraniadau" ("communica- tions") ar bynciau di-gyswllt â'i gilydd. Cynhaliwyd y brif raglen yn yr "Examination Schools." Y tro diwethaf y bûm yn yr adeilad hwn, a hynny flynyddoedd lawer yn ôl bellach, oedd i eistedd arhol- iadau, ond y tro hwn yr oedd amgylchiadau'n llai pryderus, a gor- sedd barn, fel pe bai, wedi troi yn orsedd gras Agorwyd y gynhadledd gyda phapur gan Dr. A. M. Ramsey, Archesgob Caergaint, ar "Hanesion y Dioddefaint" ("The Narratives of the Passion"). Soniodd am bwysigrwydd hanfodol Hanesion y Dioddefaint, a'r modd y ceir amrywiol ddiddordebau diwinyddol ynddynt. Rhoddwyd amlinelliad o'r prif bwyntiau cyffredinol a welir yn y gwahanol adroddiadau; y pwyslais ar ddiniweidrwydd yr lesu, y lle amlwg a roddir i gyflawniad yr Ysgrythur yn stori'r