Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gosodiad, na siaredir fawr ddim o'r iaith ymhen hanner canrif ym marn rhai pobl, er mwyn gwneud y pwynt fod yr iaith yn ffynnu pan sgrifennwyd y llythyrau hyn. Ar ôl trafod y gwladychu yn ardaloedd gwledig y Gorllewin Ganol a Phell, a nodi mai canmoliaethus a brwdfrydig oedd nodyn y mwyafrif mawr or llythyrau a anfonwyd adref, 0 leiaf ar ôl disgrifio diflastod y daith, â ymlaen i ddangos mor wahanol oedd cyweirnod llythyrau'r ymfudwyr diwydiannol. Yr oedd diwydiant y wlad newydd yn drwm yn nyled crefftwyr profiadol o Brydain, ac yn eu plith fel y gellid disgwyl, Cymry oedd yr arloeswyr yn y diwydiannau glo, dur, haearn ac alcam. Daeth llawer ohonynt yn rhinwedd ea medr, eu profiad a'u sobrwydd yn flaenllaw a phwysig yn y diwydiannau hyn ym Mhensylvania, Ohio ac Illinois, ond yn ystod ac ar ôl y Rhyfel Cartref daeth y galw mawr am lo a miloedd ar filoedd o Gymry i'r ardaloedd hyn ac hefyd i Tennessee a Missouri. Yr oedd llawer ohonynt yn hen brofiadol ag undebau llafur; yn wir talwyd treuliau teithio amryw ohonynt gan eu hundebau (e.e., gweler td. 36). Oherwydd hyn ni ruthrai'r meistri megis cynt i'w cyflogi, ac yn anffodus iddynt hwy yr oedd llif cyson erbyn hynny o ymfudwyr o ganol- barth a de Ewrop, gwyr cwbl di-brofiad o'r gwaith ond yn barod i dderbyn telerau'r meistri. Mewn canlyniad nodyn siomedig ac weithiau chwerw a geir yn llythyrau'r Cymry hyn, a mynych yw'r sôn am streiciau a phendant yw'r rhybudd i'w hen gyd-weithwyr i aros gartref yn hytrach na chwyddo rhif y "black-legs" yn yr Unol Daleithiau. Dengys y bennod ar y Rhyfel Cartref mor unfryd oedd Cymry'r America o blaid Lincoln, ac hawdd gweld i'r profiadau hyn gadarnhau'r ymwybyddiaeth Americanaidd yn eu plith. Diddorol sylwi hen elyniaeth Cymro at Sais yn codi ei ben yn y wlad newydd pan fethodd Lloegr â chefnogi'r Gogledd. Y mae yna rai pwyntiau bach yn taro'r darllenydd o Gymro. Ar waethaf ôl gofal mawr y mae ambell awgrym nad un cwbl gyfarwydd â'r iaith a fu wrthi; e.e., er yn cyfieithu pob gair arall yng nghyfeiriad y llythyr ar td. 46, gadawyd 'Llanelwy' fel y mae; oni wyddai mai 'St. Asaph' ydoedd? Felly hefyd od yw sylwi 'Rhaiadrgwy' ynghanol mor o Saesneg yn y Nodiadau, td. 327. Diflas hefyd yw gorfod troi i'r Nodiadau am ddyddiad ambell lythyr am na ofalodd yr awdur ei nodi. Mae'r nodiadau yn y cefn yn dangos ymhle yr ymddangosodd y llythyr gyntaf a p'un ai cyfieithiad ydyw, ond ni ddangosir yn unman ymhle nac i ba raddau y talfyrrwyd y llythyrau. Ar y llaw arall, pan benderfynna'r golygydd bod angen egluro ambell air neu gyfeiriad, gwna hynny yn y testun ei hun, o fewn cromfachau, ac nid hyd yn oed ar waelod y ddalen! Y mae ambell gyfieithiad hefyd yn taro'n chwithig ar y glust, e.e., "In the name of the grandfather" (t. 28), a tybed ai 'ysbrydol' oedd y "spiritual Welshmen" y cyfeirir atynt ar dudalen 148? Anghyflawn yw'r Mynegai hefyd. Eto annheg yn ogystal ac anghwrtais fyddai bod yn or-feirniadol ar fanion. Cawsom gyfrol ddiddorol dros ben, ac odid nad ein Ue ni fel Cymry yw diolch i'r Sais hwn am wneud hynny a esgeuluswyd gennym ni ein hunain. Aberystwyth MARIAN Henry Jones