Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DANIEL ROWLAND A LLANGEITHO* Daniel Rowland, y mae'n ddiamau, a wnaeth bentre diarffordd Llangeitho yn nyffryn Aeron yn wybyddus ac yn adnabyddus i genedl y Cymry, a phrin y buasai neb y tu allan i ffiniau sir Aberteifi yn gwybod am fodolaeth y fath le onibai am y weinidogaeth ryfedd a gwyrthiol a fu yma am bum mlynedd a deugain, sef o'r flwyddyn 1735, adeg tröedigaeth y diwygiwr, hyd at ei farw yn 1790. Y peth pwysig i'w gofio am Ddaniel Rowland yw'r ffaith iddo fod yn nechrau'i yrfa yn y Ue cyfyng hwnnw,-bwlch yr argyhoedd- iad. Fe gyfeirir at ei dröedigaeth yn y Coffhad a gyhoeddodd John Owen, Thrussington, yn 1839, ond y cyfeiriad cyntaf a welais at y digwyddiad pwysig hwnnw yw nodyn mewn cân o'r eiddo John Owen, Machynllyth (awdur Tröedigaeth Atheos) a gyhoeddwyd yn Aberystwyth yn 1818, sef Golygiad ar Adfywiad Crefydd yn yr Eglwys Sefydledig, &c. Meddai John Owen: "Un tro pan oedd [Gruffydd Jones, Llanddowror] yn pregethu mewn mynwent, gwelodd ddyn ieuangc y'nghanol y dyrfa'n bur aflonydd, ac yn ymddangos wrth y dull oedd arno, yn anfoddlawn i'r gwaith, edrychodd arno, a nododd ef allan â'i law, a dywedodd gydâ thosturi a thiriondeb yn ei wedd, ‘ O am air a gyrhaeddo dy galon di, ẃr ieuangc'; yn lled fuan gwelwyd ef yn llonyddu, a gwran- dawodd yn ddyfal hyd ddiwedd y bregeth,-a. phwy oedd hwnw ond Daniel Rowlands, Curad y Plwyf, dyna'r man a'r modd yr argyhoeddwyd y gwr mawr hwnw, mawr cyn hyn mewn gelyniaeth at achos Crist a'i efengyl, mawr wedi hyn mewn duwioldeb, ac yn un o'r gweinidogion mwyaf enwog fu y'Nghymru erioed." Dywed John Owen, Thrussington, mai yn Llanddewibreíì y bu hynny, a chronicla fanylion nas nodir gan y John Owen arall. Cyf- newidiodd Daniel Rowland ei ddull o bregethu ar ôl yr oedfa honno, a hynny er mawr lawenydd i Phylip Pugh, gweinidog ymneilltuol Sylwedd anerchiad a draddodwyd yng nghyfarfod dathlu deucanmlwyddiant Capel Gwynfil, Llangeitho, 9 Hydref 1962.