Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'IESU, NID OES TERFYN ARNAT' Y broblem gyntaf yw gwybod He i ddechrau sôn am berson nad oes terfyn arno. Nid yw'n problem o gwbl i wybod Ue i orffen oherwydd ni ellir gorffen sôn am yr Iesu am nad oes terfyn arno. Fe ysgrifennodd Robert ap Gwilym Ddu:- 'Rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn I ddweud yn iawn amdano/ Un ffordd o ddatrys y broblem mae'n bur debyg fyddai dechrau sôn am yr Iesu yn y dechreuad a gallwn droi at Ioan am gymorth i wneud hyn:- 'Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim ar a wnaethpwyd. Ynddo ef yr oedd bywyd; a'r bywyd oedd oleuni dynion' (Ioan I, 1-4). Ond wedi myfyrio uwchben y geiriau gwelwn nad ydym ronyn nes i ddatrys y broblem, yn wir, ymddengys yn fwy cymhleth fyth. Nid dechrau'r Iesu a gawn yma ond gwybod ei fod yn y dechreuad gyda Duw. 'D oes dim cip olwg ar ddechrau bywyd y person nad oes terfyn arno yn yr hyn a ysgrifennodd Ioan oherwydd darllenwn Ynddo ef yr oedd bywyd.' Felly'n wahanol i bawb a phopeth arall ni allwn ddatrys y broblem drwy ddechrau sôn amdano yn y dechrau oherwydd 'r oedd Ef eisoes yn y dechreuad. Mae'r broblem o wybod sut i ddechrau sôn am yr Iesu yn aros. Ni allwn orffen sôn amdano ac ni wyddom ym mha le i ddechrau. Ond i bwrpas y Cyfarfod yma mae'n rhaid cael pen llinyn yn rhywle a chydnabod ar yr un pryd mai lle gwael iawn yw rhywle i chwilio amdano. Ond beth arall allwn ei wneud? Gallaswn ddechrau gyda