Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DRYCH Y PRÍF OËSOÉDD* Go brin bod mwy o ddarllen cyson wedi bod ar unrhyw lyfr hänës arall yn yr iaith Gymraeg nag ar Ddrych y Prif Oesoedd. Fe gyhoeddwyd y fersiwn a enillodd ei le ymhlith clasuron ein llên, y fersiwn a astudir yn yr ysgolion, yn 1740. Gwnaeth yr argraffiad hwnnw'r tro am haner canrif. Ond ar ôl hynny, rhwng blynyddoedd olaf y ddeunawfed ganrif a blynyddoedd cyntaf ein canrif ni, fe gaed o leiaf ddeunaw o wahanol argraffiadau eraill. Deunaw argraffiad mewn ychydig bach dros gan mlynedd. Dyna ichwi ar gyfartaledd argraffiad newydd bob rhyw chwe blynedd. Yr oedd galw cyson am y Drych. A chofier nad er mwyn cael stori ddifyr yn unig yr oedd ein teidiau a'n hendeidiau yn darllen Drych y Prif Oesoedd; nid darllenwyr wedi cael llond bol am dro ar y cylch- gronau enwadol a'r esboniadau sych ac yn troi at Theophilus Evans am newid ysgafnach, fel y byddwn ni heddiw yn troi at stori ddi- tectif. Mae'n wir i Oronwy Owen alw Theophilus Evans yn 'babbler,' yn faldorddwr. Soniodd eraill yn llawer mwy diweddar amdano fel chwedleuwr diddan a difyr. Ond cam enbyd â Theo- philus Evans a'i gynulleidfa yw synio fel hyn. Y gwir amdano yw mai hanesydd o ddifrif oedd Theophilus Evans, ac fel cynnyrch hanesydd y darllenid ei waith yn y ganrif ddiwethaf. Mae'n arwyddocaol na bu agos cymaint o alw am y Drych unwaith y dechreuodd Owen M. Edwards gyhoeddi ei ddehongliad poblogaidd ef o hanes Cymru. Dywedais mai hanesydd o ddifrif oedd Theophilus Evans. Fel llyfr hanes difrif a chyfrifol y mae ystyried Drych y Prif Oesoedd. Ond i wneud hynny y mae'n rhaid inni yn gyntaf peth ddeall ein gilydd ynglŷn ag ystyr y gair 'hanes' a 'hanesydd.' Ein syniad ni heddiw am hanesydd, maen debyg, yw ysgolhaig manwl a gofalus sy'n dewis rhyw gyfnod arbennig yn y gorffennol i'w ddarlunio; mae'n astudio dogfennau a phapurau ac ysgrifeniadau cyfoes y cyf- nod hwnnw; mae'n casglu ei ffeithiau ac yna'n eu dehongli mor Anerchiad a draddodwyd i Gymdeithas Athrawon Cymraeg Gwynedd ym Mangor, Chwefror 1962.