Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIAD ^CHWECH O GEWRI CERDD." Gan y Parch. Harri WiUiams, M.A. Cymdeiihas Lyfraù Ceredigion. Pris 7/6. Casgliad ydyw'r llyfr gwerthfawr a diddorol hwn o sgyrsiau a roddwyd ar y B.B.C. yn Awr y Plant. Y mae plant ac ieuenctid Cymru yn wir ddyledus i'r awdur am y llyfr. Yn wir y mae oedolion yr un mor ddyledus, oherwydd er mai sgyrsiau i blant a geir ynddo, nid llyfr plentynnaidd yw. Yr oedd mawr angen llyfr fel hwn. Rhyfedd y camre breision a gymerodd cerddoriaeth offerynnol yng Nghymru yn ystod y ganrif hon. Ar ddechrau'r ganrif anodd oedd cael cyfle i glywed gwaith y meistri, ond erbyn hyn y mae'r gramophôn, cerddorfeydd y B.B.C., cerddorfa ieuenctid Cymru, a llawer cyfrwng arall, wedi agor y drws i'r golud diderfyn sydd i'w gael ym myd cerdd. Gobeithio y bydd y llyfr hwn yn rhoddi taw ar y bobl hynny sydd yn hoffi ymffrostio na wyddant ddim am ganu na cherddoriaeth. Yn y llyfr y mae'r awdur yn cyfyngu ei sylw at chwe cherddor, a rheini i gyd yn Almaenwyr, sef Bach, Handel, Haydn, Mozart, Beethoven a Schubert. Yr oedd y tri cyntaf yn wybyddus i ni fel cenedl oherwydd y canu fu ar eu gweithiau yn oes aur y corau mawr. Ymgydnabu Cymru yn drylwyr iawn â chantawdau Bach, Messiah Handel, a Creation Haydn. Ond anodd iawn yn y dyddiau a fu oedd clywed y campweithiau hyn gyda cherddorfa dda a theilwng. Y mae'n amlwg y teimla'r awdur fel llawer un arall mai problem fawr ydyw dewis rhwng Mozart a Beethoven. Y mae'r gwaith enfawr a wnaeth Mozart, a llawer ohono cyn ei fod yn ddeunaw oed, yn wyrth. Ni wêl byd cerdd ei fath byth eto. Gwna ei waith i ddyn feddwl am ddyffrynnoedd cyfareddol o hardd. Gwna Beethoven i ddyn feddwl am res o fynyddoedd, ac aml un ohonynt a'i gopa yn ymgolli mewn byd arall a byd uwch. Cyfan- soddodd Beethoven naw o symffonïau. Adgofir dyn o'r llinellau "'R oedd gan Homer geinber gynt awenyddau, naw oeddynt." Cyfansoddodd bum concerto i'r piano. Rhyfedd mai dim ond un concerto a wnaeth i'r violin. Nid ydyw yr awdur yn cyfeirio at yr un o'r chwech concerto hyn; o ddiffyg gofod mae'n debyg. Cofiaf pan oeddwn yn fachgen yng Nghaerdydd glywed Busoni yn chwarae'r pumed piano concerto, ac er bod dros drigain mlynedd er hynny credaf fod yr ail symudiad yn un o'r pethau mwyaf nefolaidd a glywais erioed. Gyda llaw, a oedd byddardod wedi taro Beethoven mor fuan ag y dywed Mr. Williams? Y mae'n wir ei fod yn drwm ei glyw yn fuan ar ei hanes, ond nid mor fuan a'r Eroica Symphony. Y mae'r hanes amdano yn arwain y nawfed symphony, a'r gwrandawyr yn rhoi cymeradwyaeth fyddarol a pharhaol, a'r arweinydd yn anymwybodol o'r cyffro. Ond yr oedd hyn ddwy llynedd ar hugain yn ddiweddarach, a Beethoven erbyn hyn yn hollol fyddar.