Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

flyrnig yn y TRAETHODYDD yn Ionor ac Ebrill 1848 dynion parchedig yn ein plith ni ein hunain-dynion yn anadlu awyr Cymru, yn llefaru iaith y Cymry, ac yn byw ar lafur y trigolion annedwydd y maent hwy mor greulon yn eu gwarth- ruddo.5 Dyma'r gwir fradwyr, y rhai pan alwyd arnynt i: ddweud y gwir, yr holl wir a dim ond y gwir yn lle hynny a eisteddasant ac a ddywedasant yn erbyn eu brodyr; rhoddasant enllib i feibion eu mám.6 Wedi cyfeirio at waith y Parchedig ]. W. Trefor, rheithor Llan- beulan, a godasai restr faith o achosion i ddarlunio anniweirdeb 'cwsmeriaid' y llys bach yn Llangefni, ac a gymhwysodd eu hanfoes- oldeb hwy at bawb yng Nghymru mewn llythyr at yr ymchwilwyr, cawsai Lewis Edwards hi'n anodd credu y gellid cael dyn o fewn cyffiniau Cymru yn alluog i roddi y fath gyhuddiadau ofnadwy â hyn ar bapur-a hwnnw hefyd yn Gymro o waed, yn ustus heddwch ac yn offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig.6 Lledu'r agendor rhwng y werin Gymraeg, dlawd, Anghydffurfiol a'r byddigion Seisnigedig, cyfoethog ac Eglwysig a wnaeth Brad y Llyfrau Gleision. Nid hyn oedd achos y rhaniad, ond gwnaeth digwyddiad 1847 fwy nag un peth arall, i ledu'r agendor, ac yn sicr fe gyflymodd ddatblygiad y werin dlawd hon i gyfeiriad radicaliaeth genedlaethol fyw iawn. Wrth geisio darlunio hyn, sylwn ar ambell agwedd ar fywyd Cymru cyn y Brad ac wedi'r .Brad. O'r agwedd grefyddol, ceir atgofion David Rees, Capel Als, Llanelli, wedi eu crynhoi'n gampus ganddo yn ei erthygl ymadawol wrth ymddeol o gadair Olygyddol y Diwygitcr yn 1865 am dros ddeng mlynedd ar hugain bu ef a'i gylchgrawn yn arwain y werin yn gyson. Fel hyn y cofiai ef Ymneilltuwyr Cymru yn nhri-degau'r ganrif 9 Yr oedd yr Ymneilltuwyr hyd yn hyn yn lled anwybodus o'u hiawnderau, ac yn eithaf syrthllyd a diofal o'u cylch. Nid oeddynt yn ymddangos eu bod yn hysbys o'u hawliau nac o'u rhwym- edigaethau gwladol Ymswynai'r rhan amlaf ohonynt rhag ymyrraeth â phethau gwladol, ac arswydent rhag cael eu hystyried a'u galw yn 'Political Dissenters'. Crynent yn ymyl offeiriad, ac