Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYS A DIWYDIANT Ym mis Mai diwethaf cynhaliwyd cynhadledd bwysig yng Ngholeg y Fro, Rhws. Trefnwyd hi, y cyntaf o'i bath, dan nawdd Cyngor Eglwysi Cymru. Bu'n gyfle i gynrychiolwyr y gwahanol eglwysi a chynrychiolwyr diwydiant i gyd-ystyried problem perth- ynas yr Eglwys a Diwydiant. Anerchiadau a thrafodaethau'r gynhadledd honno sydd y tu ôl i lawer o'r hyn a ganlyn. Ni ellir amau pwysigrwydd y broblem hon. Un o nodweddion amlycaf ein cyfnod ydyw'r trawsnewid a ddigwyddodd yn hanes cymdeithas. Erbyn hyn, y mae, i bob pwrpas, yn gymdeithas ddiwydiannol. "It is not just that a society whích a few years ago was primarily agricultural and commercial but now has factories and workshops within it; nor that certain places are industrial towns or areas. The whole social life is penetrated and influenced by the way in which the community organises itself for the manufacture, distribution and exchange of goods and services. What is more, every man, woman and child is a consumer and the whole process of producing, advertising and delivering goods and services in- fluences their life and thought in countless ways. Every part of the country is involved." (The Church and Industry, B.C.C.) Mae arwyddion y trawsnewid yn amlwg. Dywedir bod saith a deugain y cant o boblogaeth Prydain erbyn hyn yn byw mewn saith canolfan ddiwydiannol. Canfyddir yr un arwyddion yn yr ardaloedd mwyaf anghysbell. Ceir y canau llaeth yn disgwyl y lori wrth gat y fferm a daw'r siop-ar-olwynion at y drws i werthu 'menyn a'r 'wonder-loaf Rhan o'r un broses ddiwydiannol ydyw'r diboblogi cynyddol yn yr ardaloedd gwledig. Dawr peiriannau fwy a mwy i'r buarth tra bydd y gweision a'r plant yn cyrchu am y canolfannau diwydiannol. Y mae'r gymdeithas wedi newid ei chymeriad bron yn llwyr, a'i phobl yn cael eu cyflyru fwyfwy i fod yn rhan o'r patrwm diwydiannol. Myn rhai rannu aelodau'r gymdeithas ddiwydiannol hon i bed- war dosbarth: Perchenogion cyfalaf gan gynnwys y wladwriaeth