Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MESIA Gair yr iaith Hebraeg a'r Hen Destament ydyw Mes'ia (Masïach). Gair yr iaith Roeg a'r Testament Newydd ydyw Crist (Christos). Fe'i trawslythrennir weithiau, yn Mesias, gan ychwanegu — 'yr hyn o'i gyfieithu yw Crist' (v. Ioan 1, 41). Ffurf o'r ferf yn yr iaith Heb- raeg ydyw Mesïa ac yn golygu eneinio. Defnyddid ef am gysegru neu neilltuo personau neu bethau i amcan arbennig. Tywelltid olew ar berson i fod yn frenin neu yn offeiriad. Yr oedd pob brenin felly yn Fesi'a, h.y., yn eneiniog yr Arglwydd. Yr oedd Cyrus yn Fesïa Duw yn ôl y Proffwyd Eseia II. Yng nghyfnod y Macabeaid yr Archoffeiriad oedd y Mesïa ac felly o angenrheidrwydd yn perthyn i lwyth Lefi, nid Jwda. Yr un peth a olygir, gan hynny, wrth y tri gair hyn­Mesia, Crist, Eneiniog. Y tri hyn un ydynt. Paham y gadewir y gair heb ei gyfieithu mewn rhai cysylltiadau, a'i gyfieithu droeon eraill anodd penderfynu. Ceir bod dau syniad am Fesïa ymysg y genedl, a'r ddau yn wrthgyferbyniol i'w gilydd, ac mewn cydymgais am oruchafiaeth (1) Rhyw dywysog brenhinol 0 linach Dafydd. Rhyfelwr. Un a orchfygai'r gelynion, ac a adfer y deyrnas iddynt. "Mab Dafydd". (2) Syniad y Proffwydi amdano oedd "Gwas yr ArgIwydd"- un yn dysgu'r bobl, ac yn datguddio iddynt feddwl Duw. Un yn dioddef trostynt, ac yn cynrychioli'r egwyddor fawr o gariad a hunan-aberth. Yn Eseia II y ceir y darlun hwn yn bennaf. Diweddar ydyw'r cyfeiriadau at Fesïa o âch Dafydd yn llên y Proffwydi. Yr elfen foesol ac ysbrydol ydoedd prif bwyslais eu dysgeidiaeth. Y drychfeddwl cyntaf a orfu bron bob cynnig yn hanes y genedl, sef y Mesïa milwrol, rhyfelgar. Mab Dafydd, un i'w gwaredu o law ei gelynion materol a gwleidyddol. Dafydd oedd arwr y genedl. 'Saul (meddent) a laddodd ei filoedd, ond Dafydd ei fyrddiwn. Dyma'r gogoniant milwrol a oedd mewn bri'r pryd hwnnw ac a erys mewn bri hyd heddiw ymysg cenhedloedd y byd. Mynnid clymu'r Iesu o Nasareth wrth linach Dafydd: hyn oedd diben yr achres ar gychwyn Efengyl Mathew—olrhain ei achau yn