Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O GYLCH Y RETINA Yn ôl rhestr Newton, dyma liwiau'r sbectrwm fioled, indigo, glas, gwyrdd, melyn, oren, coch. Mae'r nifer iawn, fe wyddom bellach, yn uwch o lawer na hyn, ac y mae rhai lliwiau nas gwelir, e.e., uwch-fioled sy'n nesaf at fioled (ac yn ddefnyddiol at iacháu), ac is-goch (sy'n ddefnyddiol mewn tynnu lluniau o bellter). Gyda'i gilydd y mae'r rhain yn ffurfio gwynder pur, a Newton oedd y cyntaf i dorri gwynder mewn prism yn holl liwiau'r enfys. Un o'r fBgurau harddaf ym myd barddoniaeth yw eiddo Waldo Williams yn ei gerdd 'Eirlysiau', lle y mae'n cymharu'r blodau hynny â'r gwynder golau mewn prism sy'n torri'n sawl lliw (h.y., yn bob math o flodau) wrth fod y gwanwyn yn dyfod: Glân, glân, Y gwynder cyntaf yw eu cân; Pan elo'r rhannau ar wahân Ail llawer tân fydd lliwiau'r tud; Ond glendid glendid yma dardd O enau'r Bardd sy'n llunio'r byd. Mae'r Creawdwr yn gyrru Ei wynder drwy'r byd, Ei olau pur; ac fe'i gwelir yn gynnar yn y flwyddyn 'ar lawr y glyn'. Yna fe dyr yn amlder amrywiol 0 liwiau: holl liwiau'r enfys pan ddaw'r blodau eraill. Dyma gymhariaeth ysgytwol a dadlennol y bardd. Cymhariaeth ydyw sy'n fywydol ac yn rhoi bywyd. Pan fo geiriau'n greadigol fel hyn, y mae'n gwbl naturiol ac yn gywir fod amrywiaeth o famau yn bosibl am eu harwyddocâd, fel sydd ynghylch pob dyn byw unigol dan yr haul. O ganlyniad, nid yw'n syn o gwbl fod mwy nag un dehongliad yn bosibl or llinellau hyn gan Waldo Williams. Cofiaf glywed gwyddonydd arwynebol un tro yn holi pam roedd cymaint o wahanol famau am ystyr Hamlet, a chynifer o lyfrau gwahanol yn cael eu hysgrifennu amdano. Y gwir yw y gallant i gyd fod yn gywir: nid oes, fel arfer, i beth byw a aned ym meddwl dyn un ystyr syml ac elfennol, eithr amrywiaeth o bosibihadau, Felly,