Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Y mae cloc William Williams yn dal i fynd ym Mhantycelyrì," medd Gomer M. Roberts CLOC Y PÊR GANIEDYDD 0 dref Llanymddyfri draw I aelwyd dy lefn alaw, At gennad Duw, ein Tad da, Yn ddisyml harddwas yma Y doist yn ddibrofiad wr I dŷ bronwag dy brynwr. Oerfel am Bantycelyn A gwelw oedd Pentre-ty-gwyn; Heb irllais yn Llwynberllan Heb lawen bren ar ochr Brân. Ar Gaeo lluwch oer gaeaf A'i aros hir am wres haf: Dithau yn gwrol deithio A phob bryn a glyn dan glo. Y byd o'i glefyd yn glaf A gaewyd dan do'r gaeaf; O Gynwil lorn i Gonwy Heb bla ni ffynnai un plwy. Pla ym mron Aberhonddu, Pla 'Ngwy a'r Ddyfrdwy oer, ddu. Nos hagr bechod a thlodi, Nudd dew a'th dderbyniodd di. Di welaist dros y dulawr Dirionfyd ar funud fawr; Bodau'n cerdded yn Eden, Byd nyth ceriwbiaid y nen, A'i fwyn loywon afonydd A'u troedio gŵyl at draed gwŷdd. Cytgan ac organ ar gainc Dywi, o'i nythod ieuainc.