Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JAMES HUGHES (IAGO TRICHRUG)* Rhamant yn wir yw'r modd y daeth James Hughes-Iago Tri- chrug — yn un o ffigurau amlycaf ei ddydd ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd. Cyrhaeddodd Lundain tua diwedd y flwyddyn 1799 heb geiniog yn ei boced, heb braidd air o Saesneg, heb nemor ddillad oddieithr yr hyn oedd amdano. Ond yr oedd ganddo ddau beth pwysig pan gefnodd ar Geredigion, sef ei grefft fel gof a'i grefydd. Ceir hanes go fanwl am y cefndir yn sir Aberteifi yn y "Buchedd-draeth" (chwedl yntau) a sgrifennodd pan oedd yn 45 oed, ac a gyhoeddwyd yn Y Cylchgrawn yn 1868, ac a ddefnydd- iwyd yn helaeth gan y diweddar Barch. J. E. Davies yn y Gyfrol Goffa a gyhoeddwyd yn 1911. Ganwyd James Hughes yn y Neuadd-ddu ym mhlwyf Ciliau Aeron. Dyn cryf, ond go ddibris ohono'i hun oedd ei dad; crefftwr da a gweithiwr caled, a chydymaith difyr ymhob cymdeithas a chyfeddach. Ei fam oedd ail wraig ei dad, a bu farw pan oedd yn ifanc iawn. Yn fuan wedyn fe briododd ei dad â gwraig weddw a chanddi dri o blant. Symudodd i Graig y Barcut yn yr un plwyf, ac oddi yno i'r Gwrthwynt Uchaf ym mhlwyf Trefilan. Ymfudodd y tad i America yn 1795, gan adael ei deulu ar ôl yng Nghymru. Cafodd James Hughes ychydig addysg elfennol yn ei ardal, a phrentisiwyd ef yn of, a bu'n dilyn y grefft honno o dan fwy nag un meistr yn sir Aberteifi. Dechreuodd ymhyfrydu'n ifanc mewn barddoniaeth, a chafodd afael mewn llyfrau megis Bardd a Byrddau Jonathan Hughes o Langollen. Ymddiddorai ryw gymaint hefyd mewn crefydd. Arferai ei dad wrando'n lled gyson gyda'r Annibyn- wyr yng Nghilcennin, ond âi ei lysfam i dŷ-cwrdd yr Arminiaid yn y Ciliau. Wrth wrando unwaith ar y Parch. David Davies, Aber- tawe, yn pregethu ar y testun "O fewn y flwyddyn hon y byddi farw" cafodd argraffiadau dwys. Ai yn awr i'r Gelli ger Trefilan, He byddai'r Methodistiaid yn cynnal ambell oedfa ar nos Sul ac ar noson waith. Yno, un nos Sul, cafodd ei lwyr argyhoeddi o dan weinidogaeth y Parch. Dafydd Parry o Lanwrtyd, a chyn bo hir Anerchiad a draddodwyd yng Nghapel Jewin, Llundain, ynglŷn ag ailosod carreg goffa James Hughes, 28 Mawrth, 1963