Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EFENGYL A'R CREFYDDAU Perthynas Cristionogaeth â chrefyddau eraill yw un o bynciau pwysicaf ail hanner y ganrif hon. Heddiw, yn fwy nag erioed o'r blaen, rhaid yw meddwl mewn termau byd-eang. Dywedwyd hyn droeon, ond ychydig o arwyddion sydd o weithredu yn unol â'r gred. Ym myd addysg, er enghraifft, golygai, a dweud y lleiaf, roddi lIe amlycach i astudiaethau o ysgrythurau a chlasuron y Dwyrain, a chofio nad yng ngwlad Groeg y blodeuodd diwylliant ac athroniaeth gyntaf erioed. Addysg wedi ei sylfaenu ar draddodiad y Gorllewin yn unig a gawsom hyd yma.1 Mewn byd lle y diddymwyd pellter, trwy ddyfais dyn, gwnaed y pell yn agos, ac y mae mynd a dod mawr trwy'r byd i gyd. Nid yn unig â Cristionogion yn genhadon i'r Dwyrain ond fe ddaw cenhadon o'r Dwyrain i'r Gorllewin i gynnig Hindwaeth, neu Fwdhiaeth neu Islam fel crefydd i'r holl fyd. Ffaith arall i'w chofio yw fod mwyafrif trigolion y ddaear yn byw yn Nwyrain Asia lle nad oes ond tri y cant o'r boblogaeth yn Gristionogion, a dau o bob tri o'r rheini yn Babyddion.2 Y mae pob crefydd trwy'r byd yn gorfod brwydro'n arw yn erbyn materolrwydd a bydolrwydd, ond er hynny bu rhyw gymaint o ddiwygiad yn hanes yr hen grefyddau. Gellir ei briodoli i'r deffro cenedlaethol trwy'r byd, ond ffactor bwysig arall yw dylanwad Cristionogaeth arnynt. Benthyciwyd llawer oddi arni ac iddi hi y perthyn llawer o'r clod am y pwyslais cynyddol ar foes, addysg, a gwasanaeth dyngarol. Hi hefyd a'u hysgogodd i ail-ddarganfod golud eu hen ysgrythurau a deffro ynddynt yr anian genhadol. Nid mewn ystadegau y mae mesur gwaith da y cenhadon Cristionogol. Treiddiodd eu tystiolaeth yn ddwfn weithiau i feddwl gwlad. Enghraifft wych o hyn o beth yw cynnwys y telegram a anfonwyd gan Mahatma Gandhi at K. T. Paul, un o arweinwyr galluocaf yr Eglwys yn India, ar adeg o derfysg ym Malabar. Dyma eiriad y neges "Pray help the Muslims to show a Christian attitude towards the Hindus"!3 Ond erys grym o hyd yn y gwyn ddarfod inni wisgo'r Crist yn nillad y Gorllewin. Gwendid arall digon hysbys yw'r rhaniadau enwadol sy'n dirymu effeithiolrwydd y dystiolaeth.