Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYS BRESBYTERAIDD AC UNDEB YR EGLWŸS Y mae'r Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru yn hawlio ei bod yn rhan o Eglwys Iesu Grist, ac yn rhagluniaeth Duw wedi derbyn Efengyl Iesu Grist. Y mae ei bywyd yn cael ei gynnal drwy bregethu'r Efengyl, drwy weinyddu'r Sacramentau, a thrwy gym- deithas yr holl eglwys a'r cynulleidfaoedd lleol. Tystio i Dduw yw ei dyletswydd, a hefyd, ei wasanaethu ym mhob agwedd ar fywyd, ac, yn arbennig, yng ngwasanaeth eraill. Y mae'r Eglwys Bresbyteraidd yn hawlio ei bod wedi derbyn ei hetifeddiaeth drwy'r Testament Newydd, drwy'r Diwygiad Pro- testannaidd, a thrwy'r Diwygiad Methodisaidd. 1. Y Testament Newydd: Yng nghwmni rhannau eraill o'r eglwys, y mae'r Eglwys Bres- byteraidd a cyffes bod ei bywyd yn dibynnu ar ddigwyddiad dihafal, sef dyfod yr Iesu i'r byd. Y Testament Newydd yw'r mynegiant awdurdodol a chlasurol o'r traddodiad sylfaenol a'i ystyr yn y cylch apostolaidd. Heb berson Iesu Grist a'r dystiolaeth apostolaidd, ni fyddai gan yr eglwys sylfaen na chyfiawnhad. Yr awdurdod syl- faenol o'r digwyddiad hwnnw a'r dehongliad ohono yw'r Testament Newydd. Hefyd, y mae'r Eglwys Bresbyteraidd mewn dyled fawr am ei dealltwriaeth o'r Iesu a'i waith i lafur llawer o athrawon a chynghorau yn y canrifoedd cynnar, a mabwysiadodd y credoau hanesyddol fel arweiniad dibynadwy i ddealltwriaeth o'r Testament Newydd. Yn arbennig, y mae hi'n cytuno â'r Eglwys gynnar yn ei phenderfyniadau ynglŷn â diwinyddiaeth yr Iesu a'i waith prynedigol. Felly, y mae'r Eglwys Bresbyteraidd yn cyfranogi o'r etifedd- iaeth sy'n rhan o etifeddiaeth yr holl eglwys. II. Y Diwygiad Protestannaidd Cyfranoga'r Eglwys Bresbyteraidd o bwysleisiau gwahanol y Diwygiad Protestannaidd. Nid anghytunodd y Diwygwyr â'r eglwys gyfoes am athrawiaeth Duw a'i greadigaeth; ynglŷn â hynny, fe gytunodd yr holl eglwys. Er enghraifft, mae'n ddigon i gofio