Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FE'I TEMTIWYD Un peth mae'n rhaid i ni ei gofio wrth ddarllen y T.N. yw fod popeth yn hanes Iesu Grist er gwaredigaeth dyn. Temtir ni i roi cymaint o amlygrwydd i rai digwyddiadau yn ei fywyd nes anghofio bod pethau eraill nid mor amlwg, na dealladwy efallai, yn holl bwysig er mwyn cael golwg ar y Crist cyfan, a'r Gwaredwr cyflawn. Mae cyfrolau lawer wedi eu hysgrifennu ar ddysgeidiaeth Crist, ei bregeth ar y mynydd, ei ddamhegion, a'i sylwadau wrth ei ddis- gyblion. Pwy all feddwl am yr Arglwydd Iesu ar wahân i Groes Calfaria? Y Crist byw, atgyfodedig yw'r Crist a addolwn ni, ac nid yw'n angof gennym gyfodi'r trydydd dydd, ond wrth basio rhaid i mi ddatgan fy syndod fod cyn lleied o emynau sydd gennym i'r fuddugoliaeth ar angau yn yr Atgyfodiad. Yn y mawredd hyn i gyd, "Mawr ym Methlem a Chalfaria, Mawr yn dod i'r lan o'r bedd, Mawr fel Duw a mawr fel dyn Tybed a feddyliodd rhywun ychwanegu "Mawr yn ei demtiad"? Yr oedd hyn hefyd yn rhan anhepgorol o gynllun Duw i Grist. "Yna yr Iesu a arweiniwyd gan yr Ysbryd i'w demtio gan ddiafol". Yr oedd amcan a phwrpas arbennig i'r Temtiad yn yr anialwch, ond nac anghofier hefyd fod deng mlynedd ar hugain cyntaf o'i oes yn flynyddoedd o ymrafael; nid arbedwyd ef mwy na dyn arall, ac nid aeth yr un diwrnod heibio nad oedd yn agored i demtasiynau. Camsyniad fyddai meddwl fod temtiad yr Iesu wedi dechrau a gorffen yn yr anialwch; mae ystyr ddyfnach i brofiad yr anialwch. Cofiwn amdano yn mynd i'r Iorddonen i'w fedyddio gan Ioan, gwelwyd y nefoedd yn agor, yr ysbryd yn disgyn megis colomen, a chlywed y Llais Nefol, "Hwn yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y'm bodlonwyd", megis yn cyhoeddi mewn geiriau berffeithrwydd bywyd Iesu Grist hyd yma, ei fod eisoes wedi gorchfygu y temtasiynau achlysurol i fywyd naturiol dyn. Bellach felly, y mae Duw yn ei weld yn deilwng o'r ymddiriedaeth fwy yn ei gynllun er gwaredig- aeth dyn, ac er mwyn ei baratoi yn gyflawn i?r gwaith mawr, wele Duw yn mynd ag ef allan i gyfarfod gelyn y ddynoliaeth wyneb yn wyneb; nid serch hynny i'w orchfygu unwaith am byth; fe'i