Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trachefn y cymerth diafol ef i fynydd tra uchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaear a'u gogoniant: y miliynau pobl, y cyfoeth mawr, yr adnoddau dihysbydd, y gorchestion gwyddonol a chynnyrch y celfyddydau cain. "Hyn oll a roddaf i ti os syrthi i lawr a'm haddoli i"! Mor ddiofn y mae diafol yn hawlio perchnogaeth y cyfan yma; yr oedd teyrnasoedd y byd hwn wedi dod i'r sefyllfa lIe gallai diafol ymhyfrydu mai ei eiddo ef oeddynt. Cymerodd arno'i hun y teitl a roddwyd iddo wedi hyn gan yr Arglwydd Iesu Grist ei hun, "Tywysog y byd hwn". Yr oedd diafol fel heddiw yn awdurdod ar bawb sy'n trigo mewn tywyllwch; y rhai hynny sy'n ufuddhau i holl gymhellion y cnawd, ac nad ydynt yn rhodio yng ngoleuni Duw ac ymostwng i ddeddf uwch y cariad dwyfol. Y mae'n talu ei bris hefyd i'r rhai hynny a'i gwasanaetha. Os chwennych Judas ddeg dryll ar hugain o arian fe'i caiff gan ddiafol. Os yw dyn yn barod i'w wasanaethu fe gaiff beth a ofyn amdano cyfoeth, enwogrwydd a phoblogrwydd dynol, safle a grym, er hunan les; rhoddion diafol ydynt i gyd. Cwestiwn hollol wahanol yw beth fydd gwerth hyn oll yn y pen draw; yr unig gyfoeth y gall dwylo marw ei ddal wrth "groesi'r Iorddonen" yw hyn a roddwyd ganddynt pan oeddynt byw. Amcan mawr bywyd, dioddefaint a marwolaeth Crist oedd etifeddu'r ddaear a'i chyflawnder, ac yn awr fe'i cynigir iddo heb ddioddefaint nac ymdrech bersonol, yn unig plygu i ddiafol. Pwynt y temtiad oedd cael gan yr Iesu geisio cyrraedd amcan Duw, ond trwy gyfrwng croes i'r ffordd ddwyfol. Fe'n temtir ninnau i ostwng safonau ysbrydol a moesol i ddenu'r byd, ac fe all chwyddo'r nifer, eithr nid eglwys Iesu Grist a fydd bellach. "Ymaith Satan"! Nid sialens yn awr ond gorchymyn pendant a roddodd yr Iesu iddo. Y ffordd i etifeddu teyrnasoedd y ddaear oedd trwy faeddu a chaethiwo'r diafol ac nid trwy ei wasanaethu. Defnyddiodd y Meistr yr un arf eto, perffaith ymddiriedaeth yn naioni ewyllys Duw, canys ysgrifennwyd "Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi". Cydia'r Arglwydd Iesu yr egwyddor o wasanaethu wrth addoli. Dim ond addoliad y gofynnodd diafol amdano, ac fe dwyllir llawer i gredu y gallent roi gwasanaeth i Dduw, i'r eglwys, a byw yn gwbl i'r hunan yn eu bywyd beunyddiol. Mor gyfrwys y mae'r diafol, ond ni ellir gwasanaethu Duw a mamon;