Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nid oes ond Ue i un eistedd ar orsedd, nid mainc yw ond cadair, Ue i un. Ni ellir addoli mewn gwirionedd ond trwy fywyd o addol- iad ac o sacrament. Y mae addoliad a gwasanaeth ynghlwm wrth ei gilydd. Felly gorchfygodd y Crist; gwrthododd blygu i ddiafol, er holl ogoniant y byd hwn; derbyniai air Duw mai darfodedig ydoedd oll, trysor y gallai gwyfyn a rhwd ei lygru, trysor y gallai lleidr dorri drwodd ato a'i ladrata. Yn y meddiant ohonynt llechai ofn eu colli; yr oedd had eu difodiant yn y ffaith o'u lluosowgrwydd. Gwrthod wnaeth yr hyn oedd amherffaith, halogedig, diflanedig, fel yr enillai'r "etifeddiaeth anllygredig" a dihalogedig a diddiflanedig drwy oruchafiaeth y Groes. Nid chwennych teyrnasoedd ond un Deyrnas ddisigl a wnaeth, ac aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo i'n Harglwydd ni, a'i Grist Ef, ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd, un orsedd, un Deyrnas. Profodd yr Arglwydd Iesu yn orchfygwr, plygodd i ewyllys Duw, credodd yn ei ffordd i waredu'r byd, i ddwyn ei amcan i ben, ac ni wyrodd oddi ar lwybr ei genhadaeth. Gorchfygodd uffern ddu, Gwnaeth ben y sarff yn friw, O'r carchar caeth y dygir llu Trwy ras i deulu Duw. Llansamlet Ifor G. REES Jone.s