PROFIAD Y NADOLIG 1962 Mae'n goffa, mae'n gyffes, O gyni y'i ganed. OMEGA AC ALPHA Tywynna'r goleuadau ar y goeden fel erioed, A'r cardiau hwythau'n addurn hyd y tŷ Yn dwyn i'm gofion y cyfeillion lu A ddeil yn ffyddlon; Er i haul fy mywyd i fachludo ganol dydd, Pan roddwyd yn y ddaear fwyth Fy nghariad gwyn. Dinod ydyw f aelwyd heno, Yr hen gymdeithas a'r cwmnia difyr Wedi ffoi, Ond yng nghyfeillach dau adawyd Imi'n weddill Fe red ym mêr f'esgyrn Rin y geni mwyn A'r gras a rydd y Crist I gario pob rhyw groes. MARION Gwilym JONES
This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.
The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.