Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Disgrifir yn yr ail atodiad y gwahanol fathau o brofion a ddefnyddir a rhydd y trydydd enghreifftiau o'r "Graddfa Agweddiad" sy'n rhagflaenydd anhepgor i'r profion-h.y., ceisio mesur yn ystadegol agwedd plant a'u rhieni at ddysgu Cymraeg. Mae'r gyfrol yn grynodeb teg o'r gwaith a wnaethpwyd hyd 1962 yn y maes ac ni fedr nac athro na gweinyddwr ei anwybyddu. Mae llawer o'i gwerth yng ngallu Mr. W. R. Jones i osod y problemau mewn golau clir gan apelio am farn gytbwys yn He rhagfarn emosiynol ar broblemau nad ydynt yn academig foel ond yn anadl einioes i ddyfodol y ddwy iaith sydd raid i'r Cymry wrthynt. Rhaid sôn am broblemau: nid oes un broblem ddwyieithog ond cyfres o fan broblemau dyrys y bydd raid i'r dyfodol ddarganfod un ateb ar ôl y llall iddynt. Cymwynas fawr Mr. Jones yw digarregu'r maes iddo ef ac eraill fynd i mewn, i hau a chael gwell ffrwyth nag a gafwyd hyd yma. Aberystwyth J. HENRY JONES O;N.-Dylid cywiro gwall argraffu ar waelod tud. 107, dwy linell o'r gwaelod: ar ôl "Grŵp B", ychwaneger "plant a'u rhieni'n medru peth Cym- raeg, GrWp C". Y GWYDDONYDD, Cyfrol 1, Rhifyn 1. Gwasg Prifysgol Cymru, Mawrth 1963. Pris 3/6 y rhifyn, i danysgrifwyr 10/- flwyddyn am bedwar rhifyn. Pleser o'r mwyaf yw croesawu cylchgrawn yn ymdrin â gwyddoniaeth yn Gymraeg. Yr ydym yn ddyledus am y fenter yma i'r Dr. Llywelyn. Chambers, darlithydd mewn Mathemateg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor-un a ddysg- odd Gymraeg gyda llaw. Dr. Chambers a awgrymodd gyntaf y dylai fod cylchgrawn Cymraeg i drafod pynciau gwyddonol. Cafodd y syniad gefnog- aeth y pedwar Coleg, a Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru. Bu'r Bwrdd yn ffodus i gael y Dr. Glyn O. Phillips, o'r Adran Gemeg, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, fel golygydd. Mae Dr. Phillips wrth gwrs, erbyn hyn yn adnabyddus trwy Gymru ben baladr, ac os medr ddangos yr un brwdfrydedd yn y cylch- grawn newydd yma ag a ddengys yn ei ddarllediadau ar y radio a'r teledu, yna bydd dyfodol y cylchgrawn yn sicr. Erbyn hyn mae hyd yn oed trigolion ffennydd mwyaf diarffordd Cymru yn ymwybodol o'r ffaith eu bod nhw'n byw mewn oes wyddonol. Mae gwyddoniaeth yn ei hamryfal agweddau yn cyffwrdd â bywyd pawb ohonom, ac yn ennyn ynom ddiddordeb yn yr hyn mae'r gwyddonwyr yn ceisio ei wneud. Un ochr yn unig o wyddoniaeth yw'r bom atomig a danfon dyn i'r gwagle. Mae yna ochr arall sydd yn fwy pwysig gan ei bod hi'n effeithio ar safon bywyd dyn. Cipolwg ar yr ochr arall yma a gawn yn erthyglau y Dr. Hugh Rees ar "Ddilyn Achau Gwenith", a Llywelyn Phillips ar "Fridfa Blanhigion Cymru ym Mhlas Gogerddan". Pa sawl Cymro a wyr mai "onibai am waith y fridfa mae'n dra sicr na fyddai ceirch gaeaf yn gnwd ar y fferm erbyn heddiw". Gellir mesur gwerth yr ymchwiliadau i ffermwyr Prydain mewn erwau o dir pori a cheirchiau. Daw gwyddonwyr amaethyddol y byd i Blas Gogerddan, a da o beth yw i ni