Skip navigation

Y Traethodydd

 - 

Cyf. CXVIII (XXXI) (506-509) 1963

Addysg ddwyieithog yng Nghymru. Book review.

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Disgrifir yn yr ail atodiad y gwahanol fathau o brofion a ddefnyddir a
rhydd y trydydd enghreifftiau o'r "Graddfa Agweddiad" sy'n rhagflaenydd
anhepgor i'r profion-h.y., ceisio mesur yn ystadegol agwedd plant a'u rhieni
at ddysgu Cymraeg.
Mae'r gyfrol yn grynodeb teg o'r gwaith a wnaethpwyd hyd 1962 yn y
maes ac ni fedr nac athro na gweinyddwr ei anwybyddu. Mae llawer o'i
gwerth yng ngallu Mr. W. R. Jones i osod y problemau mewn golau clir gan
apelio am farn gytbwys yn He rhagfarn emosiynol ar broblemau nad ydynt
yn academig foel ond yn anadl einioes i ddyfodol y ddwy iaith sydd raid i'r
Cymry wrthynt. Rhaid sôn am broblemau: nid oes un broblem ddwyieithog
ond cyfres o fan broblemau dyrys y bydd raid i'r dyfodol ddarganfod un ateb
ar ôl y llall iddynt. Cymwynas fawr Mr. Jones yw digarregu'r maes iddo ef
ac eraill fynd i mewn, i hau a chael gwell ffrwyth nag a gafwyd hyd yma.
Aberystwyth J. HENRY JONES
O;N.-Dylid cywiro gwall argraffu ar waelod tud. 107, dwy linell o'r
gwaelod: ar ôl "Grŵp B", ychwaneger "plant a'u rhieni'n medru peth Cym-
raeg, GrWp C".
Y GWYDDONYDD, Cyfrol 1, Rhifyn 1. Gwasg Prifysgol Cymru, Mawrth 1963.
Pris 3/6 y rhifyn, i danysgrifwyr 10/- flwyddyn am bedwar rhifyn.
Pleser o'r mwyaf yw croesawu cylchgrawn yn ymdrin â gwyddoniaeth yn
Gymraeg. Yr ydym yn ddyledus am y fenter yma i'r Dr. Llywelyn. Chambers,
darlithydd mewn Mathemateg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor-un a ddysg-
odd Gymraeg gyda llaw. Dr. Chambers a awgrymodd gyntaf y dylai fod
cylchgrawn Cymraeg i drafod pynciau gwyddonol. Cafodd y syniad gefnog-
aeth y pedwar Coleg, a Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru. Bu'r Bwrdd yn
ffodus i gael y Dr. Glyn O. Phillips, o'r Adran Gemeg, Coleg y Brifysgol,
Caerdydd, fel golygydd. Mae Dr. Phillips wrth gwrs, erbyn hyn yn adnabyddus
trwy Gymru ben baladr, ac os medr ddangos yr un brwdfrydedd yn y cylch-
grawn newydd yma ag a ddengys yn ei ddarllediadau ar y radio a'r teledu,
yna bydd dyfodol y cylchgrawn yn sicr.
Erbyn hyn mae hyd yn oed trigolion ffennydd mwyaf diarffordd Cymru
yn ymwybodol o'r ffaith eu bod nhw'n byw mewn oes wyddonol. Mae
gwyddoniaeth yn ei hamryfal agweddau yn cyffwrdd â bywyd pawb ohonom,
ac yn ennyn ynom ddiddordeb yn yr hyn mae'r gwyddonwyr yn ceisio ei wneud.
Un ochr yn unig o wyddoniaeth yw'r bom atomig a danfon dyn i'r gwagle.
Mae yna ochr arall sydd yn fwy pwysig gan ei bod hi'n effeithio ar safon bywyd
dyn. Cipolwg ar yr ochr arall yma a gawn yn erthyglau y Dr. Hugh Rees ar
"Ddilyn Achau Gwenith", a Llywelyn Phillips ar "Fridfa Blanhigion Cymru
ym Mhlas Gogerddan".
Pa sawl Cymro a wyr mai "onibai am waith y fridfa mae'n dra sicr na
fyddai ceirch gaeaf yn gnwd ar y fferm erbyn heddiw". Gellir mesur gwerth
yr ymchwiliadau i ffermwyr Prydain mewn erwau o dir pori a cheirchiau.
Daw gwyddonwyr amaethyddol y byd i Blas Gogerddan, a da o beth yw i ni
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.