Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD YR YSBRYD GLÂN A DUW* I Fe ddywedodd rhywun fod dyn mewn perygl o golli ei enaid wrth beidio credu Athrawiaeth y Drindod, ac mewn perygl o golli ei synhwyrau wrth geisio ei deall. Daeth yr ail gymal yn fwy gwir i mi yn ystod y tri mis diweddaf yma nag erioed o'r blaen, canys ni ellir ymdrin â pherthynas yr Ysbryd Glân a Duw heb geisio plymio rhyw gymaint i ddyfroedd dwfn ond tawel Athrawiaeth y Drindod Sanctaidd. Er ymgydnabod yn weddol gyson ag aml wedd ar yr athrawiaeth trwy gydol y blynyddoedd, a phregethu droeon arni ar Sul y Drindod, credaf mai trwy ddeall perthynas fewnol y Drindod yr wynebir y pynciau mwyaf astrus mewn diwinyddiaeth. Ac ni ddaw'r pynciau hynny yn glir i ni oni wynebwn berthynas arbennig unrhyw ddau o'r Personau dwyfol a'i gilydd. Hyn a ddaeth yn faes myfyrdod i mi, sef per- thynas y Trydydd Person yn y Drindod a'r Tad. Pe gellid mentro dywedyd unpeth am y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân o fewn cyrraedd credinwyr cyffredin ar hyd yr oesoedd, mae'n ddiamau y dywedid, yng -ngeiriau Ioan o Ddamascus, mai'r Tad yw egwyddor flaenaf (sef arche y Duwdod). Yn ddiamau, ym meddwl y mwyafrif drwy'r oesoedd, fe gredir mai'r Tad yw ffyn- honnell y Duwdod. Credir fod y Mab a'r Ysbryd Glân wedi eu hachosi gan y Prif Achosydd (a dilyn Ioan o Ddamascus) sef y Tad. Credir yn ddiamau yn ein plith fod y Tad yn fwy na'r ddau Berson arall. "Fy Nhad i, yr hwn a'u rhoddes i mi, sydd fwy na phawb" (Ioan x, 29). "Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i'r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun" (Ioan v, 26). "Canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi" (Ioan xiv, 28). Meddylir felly yn y drefn hanesyddol a thraddodiadol yn gyfres o un, dau, tri-y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân. *Papur a ddarllenwyd yn Undeb y Bala ym Mai, 1963. CYFROL CXVIII. RHIF 509. HYDREF, 1963