Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'r braidd y gellir disgwyl i unrhyw un ddweud rhywbeth newydd neu wreiddiol am Undeb Cristionogol. Bron nad yw pob agwedd i'r mater wedi ei drafod yn llwyr bellach. Cafodd yr amheuwyr eu cyfle­a phrin fod yr un ddadl yn aros nad yw wedi ei chodi a'i defnyddio hyd yr eithaf. Cafodd yr amddiffynwyr hefyd eu llwyfan, ac nid erys fawr ddim o werth nad yw wedi ei fynegi. Cawsom ninnau yng Nghymru ein siâr deg o'r trafodaethau yn ystod y misoedd diwethaf. Ar y naill law, cafwyd digon o gyfle i drafod agweddau diwin- yddol a hanesyddol y mater. Yn niwedd 1961 cyfarfu cynhadledd fawr Delhi Newydd, ac fe ddygwyd holl brif faterion y gynhadledd i'n sylw drwy'r wasg, y radio a'r teledu. Erbyn hyn cyhoeddwyd cyfrol drwchus a rydd adroddiad manwl am waith y Gynhadledd. Pan glowyd cynhadledd Delhi Newydd, yr oeddym o fewn ychydig ddyddiau i Galan 1962­blwyddyn dathlu'r Troad Allan yn 1662. Rhoddwyd cyfle inni yn ystod y flwyddyn hon i fyned yn ôl i edrych ar ein gwahaniaethau-i weld gwir hanfodion ein Hymneilltuaeth, ac i ystyried pa bethau sy'n gwbl angenrheidiol a hanfodol i'n traddodiad. Aed yn ôl i ystyried y sylfeini, ac i weld pa bethau a berthyn i'n bod fel Eglwysi Ymneilltuol. Yn sicr ddigon, y mae hyn yn un o'r prif sylfeini i unrhyw drafodaeth ar Undeb Cristion- ogol. Ar y llaw arall, fe'n bwriwyd i ganol trafodaethau ar agweddau ymarferol y mater. Daeth cynnig Syr D. J. James i Eglwysi Ym- neilltuol Cymru-ac y mae'n ddiamau nad oes yr un aelod eglwysig erbyn hyn na ẃyr rywbeth am y drafodaeth. Yn fuan wedyn ymddangosodd Cynllun Undeb Eglwysig gan Bwyllgor y Pedwar Enwad-llyfryn sydd bellach yn teilyngu'r enw o 'best-seller'. Yr unig beth perthynasol i'w nodi yn awr yw fod y ddau symudiad yn gwbl annibynnol. Yr oedd Pwyllgor y Pedwar Enwad (Tri Enwad hyd yn ddiweddar) yn bod ymhell cyn cynnig Syr D. J. James, ac yn wir, yr oedd y cynlluniau ar dro i gyhoeddi'r Cynllun Uno cyn bod unrhyw sôn am y cynnig ariannol. f Anerchiad a draddodwyd yng Nghymdeithasfa'r De ym Mhorthcawl, Ebrill, 1963.