Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ysgrifennodd y Parch. R. Ifor Parry lyfr darllenadwy sydd yn ceisio gosod Ymneilltuaeth yng Nghymru yn ei chefndir hanesyddol gan ofyn yr un pryd beth yw ei neges i fywyd heddiw. Mae'r llyfr yn codi materion pwysig mewn ffordd gyfrifol a haedda ystyriaeth ofalus. Cais yr awdur ddangos fod Ymneilltuaeth wedi'i sylfaenu ar ddaliadau arbennig am natur yr Eglwys, y Weinidogaeth, y Beibl, Addoliad ac am fywyd ei hun, daliadau nas ceir mewn Eglwysi Esgobol. A yw'n gywir? Ym marn un darllenydd y mae'r dadansoddiad yn ddiffygiol a chynigir yr ysgrif hon fel cyfraniad i'r drafodaeth a fydd (ni hyderwn) yn dilyn cyhoeddi'r llyfr. Ni cheisiwn yma drafod rhagoriaethau'r llyfr, ac y mae llawer ohonynt; ein hamcan yn hytrach ydyw sylwi ar ei genadwri sylfaenol. Gwnaed ymdrech wrth ddathlu 1662 i ddangos nodweddion arbennig Ymneilltuaeth a sonnir llawer am ein traddodiad ymneill- tuol. Wrth Ymneilltuwyr golygir yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, yr Eglwys Fethodistaidd, ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru a cheisir dangos bod ganddynt oll draddodiad cyffredin. Dengys y Parch. Ifor Parry mor hawdd yw camddefnyddio llawer term am grefydd- wyr mgeis "Yr Eglwysi Rhyddion" a chais ef ddiffinio'r termau a ddefnyddia. Y mae ei ddiffiniad o "Hen Ymneilltuaeth" yn gwbl glir, sef y bobl hynny a ystyriai fod yr Eglwys leol yn wir a chyflawn Eglwys Iesu Grist. Nid yw'r Eglwys Fethodistaidd na?r Presbyter- iaid wrth gwrs yn Hen Ymneilltuwyr gan fod eu syniad am natur Eglwys yn dra gwahanol. Os yw'r Pedwar Enwad i'w cynnwys dan yr un pennawd rhaid wrth ddiffiniad arall ac ehangach o Ymneilltuaeth. Ond ni chynigir inni ddiffiniad felly. Ond ceisir dangos yn hytrach bod yr Eglwysi hyn yn debyg i'w gilydd ac yn annhebyg i'r Eglwys Esgobol yn eu daliadau am yr Eglwys, y Weinidogaeth ac yn y blaen. Cyferbynna'r athrawiaeth Gatholig a'r athrawiaeth Ymneilltuol ar y pynciau hyn, gan briodoli'r cyntaf i'r Eglwys Anglicannaidd a'r ail i'r Pedwar Enwad. A yw'r cyfer- byniad hwn yn gywir? Ystyriwn i ddechrau yr hyn a ddywed ef am yr athrawiaeth Gatholig am Natur Eglwys. "Dywed hon fod yr Eglwys yn oll- gynhwysfawr, yn cofleidio pawb, a'i bod hi gyfled a'r genedl a'r wladwriaeth" (tud. 23). Nid dyna yn sicr yr athrawiaeth am yr