Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARCHOFFEIRIADAETH CRIST Canys n d oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd-ddioddef gyda'n gwendid ni ond wedi ei demtio ymhob peth yr un ffunud â ninnau, eto heb bechod (Hebr. iv, 15). I "Nid yw neb (meddafr Iesu ei hun) yn bwrw gwin newydd i hen gostrelau'. Yr argraff a geir ydyw mai dyma ydyw'r syniad hwn o archoffeiriadaeth — ceisio gwasgu gwin yr Efengyl a'i gwirioneddau cyfoethog i fold hen ffurfiau ac ordinhadau yn perthyn i'r Hen Oruchwyliaeth a hen grefyddau eraill y byd. Hwyrach bod galw am hyn pan ysgrifennid y Llythyr hwn at yr Hebreaid, er mwyn ceisio dehongli Cristnogaeth yn nhermau'r grefydd Iddewig a'i chyfundrefn aberthol. Oherwydd yr oeddid megis rhwng dau beth pryd hwnnw-heb ollwng gafael yn llwyr, ar y naill law, yn yr hen bethau; ac ar y llaw arall heb afael yn sicr yn y newydd. Yr oedd perygl i'r bobl ddigalonni, a llaesu dwylo, a chilio yn ôl, a hynny ar adeg anodd, pan oedd erlid a dioddef yn dilyn arddel Crist. Fe gofir mai Cristnogion Hebreig neu Iddewig ydoedd y bobl hyn, a gwnaed pob ymdrech i'w denu ac i ddal gafael ynddynt. Yr oedd casgliad helaeth wedi ei wneuthur o ddyfyniadau o'r Hen Destament er mwyn ceisio dangos a phrofi iddynt fod yr Iesu yn cyflawni'r holl broffwydoliaethau am y Meseia a oedd yn yr Hen Destament. Y prif bwnc, feallai, yr oeddid mewn mwyaf o ddyryswch yn ei gylch ydoedd yr Offeiriadaeth. Nid oedd yr Iesu yn offeiriad. Nid oes hanes iddo ddwyn nac offrwm nac aberth i'r Deml. Yn hytrach condemnio'r offeiriadaeth yn Uym a wnaethai. Yn y llyfr hwn y ceir yr ymgais gyntaf a'r unig ymgais o bwys, i geisio gosod yr Iesu yn nhermau a ffigurau'r offeiriadaeth Iddewig a'i chyfundrefn aberthol. Y mae'r syniad a'r swydd offeiriadol yn mynd yn ôl ymhell yn hanes crefydd. Ond nid oedd yn bod ar y cychwyn cyntaf i gyd. Datblygiad ydyw yng nghwrs yr oesoedd. Tyfu a wnaeth i fod yn swydd neu urdd arbennig, a'r holl seremoniau a chyflawniadau ynglŷn wrthi. Syml ydoedd ar y cychwyn cyntaf, a gallai unrhyw un ei chyflawni, megis y penteulu neu bennaeth y llwyth. Yr oedd yr offeiriadaeth hefyd yn cynnwys llawer cangen a dyfodd wedi