Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DROS Y TROTHWY I DRAGWYDDOLDEB Yn ystod fy ngwyliau yr haf gwlybanllyd diwethaf modurais i dreflan fler ger y môr; TreHwys neu rywbeth croes o'r fath wrth ei henw. Strydoedd cul, yn llawn tuniau a bwcedi diwaelod a chrwyn pys a ffa, oedd ar bob llaw, bob un yn unioni at y môr. Gallwn feddwl fod pobl Treflwys yn wir ddiolchgar am fôr i fwrw eu haflendidau lawer iddo. Yn un o'r heolydd ceimion, drycsawrus, deuthum at hen adeilad bregus yr olwg, aflanach ei wedd na'r gweddill, gydag un step i lawr at ddrws du a'i hanner uchaf yn wydr, neu wedi bod â gwydr: tyllau yn y chwareli oedd amlycaf yn awr. Gwag oedd y tŷ, a hawdd oedd deall paham. Yr oedd nid yn unig yn oer a thamp a budr, fel calon pechadur, ond hefyd yn dywyll gyda'i ffenestr fechan a'i ddrws yn is na'r stryd, ac awyr- gylch angau a'r bedd a Uygredigaeth o'i gwmpas i gyd. Sefais dro yn rhythu ar y t� truenus. Yr oedd pregeth yn araf ymlunio yn fy meddwl ar y geiriau "ein daearol dŷ o'r babell hon a ddatodir". Brith-welwn dri phen yn ymrithio yn fy mron gyda T i gychwyn pob pen-a la Philip Jones, Porthcawl, gynt: tlodi'r tŷ, trueni'r tŷ, tranc y tŷ. "Purion yn siwr at fore Sul", sibrydwn wrthyf fhun. "Mae'r hen dŷ yn eitha darlun o wareiddiad yr ugeinfed ganrif-tlodi er pob cynorthwyon, trueni er amlder meddygon ac ysbytai, a tranc nid mor bell oddi wrthym, onid ymarferwn bwyll". Torrwyd ar fy myfyr gan swn peswch yn fy ymyl. Hen frawd o gychwr tew a byr oedd yno, gyda chetyn-glai yn ei enau (pleser oedd gweld cetyn yn lle'r sigared dragwyddol), a rhyw jersi wlanog a fuasai unwaith yn nefi-bliw hyd ei bengliniau. "Sbio ar y t� ydach chi, hy!" llefodd, gan symud y cetyn — â'i dafod, mae'n siWr-yn ddeheuig i gongl ei geg. "Wel ie, gyfaill", addefais. "Rhyw edrych yn fyfyriol ar yr adeil pridd". "O na, nid pridd ydi o", bloeddiodd. "Bricsen felen, ond 'i bod hi wedi t'wllu". Ni thrafferthais i ddadlau a chynnig darlleniad ymyl-y-ddalen. "Pwy tybed a fu'n lluestu yma?" gofynnais. "Yn be-ddeudoch-chi?"