Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y stryd 'ma at y môr, ac yn yr ha' fe ddaw amball un o'r ceir ma i lawr hyd-ddi fel pe buasa hi yn un o'r ffyrdd newydd ma lle gellwch chi neud trigain milltir yn braf. Pnawn o fis Awst oedd hi-pnawn braf am dro-a dyna'r hen Wil Jos allan drwy'r drws fel saeth-dyn a ẃyr pam-a dyma un o'r ceir mawr 'ma iddo fo fel ?r oedd o'n camu oddi ar y trothwy i'r ffordd "Dyn a'u helpo", atebais yn y man yn wyneb y diweddglo trist. "Wel, wel!" "Methu a dallt ydw i", ceisiodd liniaru'r trasiedi, "sut na chlyw- odd Wil Jos y car yn dwad. Os oedd o'n fyr 'i olwg 'd oedd dim o'i le ar 'i glyw. Falle mai rhywbeth ddaru daro i'w feddwl o yn sydyn "Fel be?" gofynnais yn chwilfrydig. "Wel, 'd wn i ddim. Tybed mai awydd mynd i lawr at y môr ddaeth dros yr hen frawd, yn lle byw yn 'i ddyblau uwch ben lledar o hyd". "Rhywbeth fel-beth am yr awr cawn fynd i'r môr?" awgrymais. Edrychodd arnaf gyda mwy o barch nag o'r blaen a dweud yn araf: "Mi gofia 'i ganu honna ersdalwm. 'D ydw i ddim wedi 'chlywed ers blynyddoedd chwaith. Beth am yr awr cawn fynd i'r » mor. A cherddodd i lawr tua'r môr glas, mawr, ei hun, a chlywn ei lais craciog yn y pellter yn teimlo'i ffordd at y nodau poblogaidd gynt: Beth am yr awr? Beth am yr awr cawn fynd i'r môr? Trois innau oddi wrth y trothwy a fu'n ddôr tragwyddoldeb i'r hen grydd-yn sydyn ac heb lawer o boen, mae'n siŵr­i wlad Ue nad oedd eisiau esgidiau: canys rhoddir adain i bob un a ddaw iddi. Ac yn sicr, myfyriais wrth gefnu ar y môr a dringo'r stryd tua'r bryn glas o'm blaen, fe ddaw iddi hi yn ddiau y diwyd a'r diniwed er, o bosibl, na fuont golofnau mewn na llan na chapel. Canys plant yw'r diwyd i'r Hwn sydd "yn gweithio hyd yn hyn"; ac, os cywir oedd barn yr emynydd- "i bob un Yn ôl ei waith y teli". W. D. P. Davdss