Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD MYTH, SYMBOL, CYDWEDDIAD, DAMEG (II) Yn ei lyfr Religion and the Scientific Outlook fe ddywed Dr. T. R. Miles wrth drafod y gwahanol ddamhegion y gellir eu defn- yddio i fynegi'r argyhoeddiad neu'r safbwynt crefyddol mai'r ymddygiad cywir yn y maes crefyddol ydyw "distawrwydd yn cael ei dymheru gan ddamhegion". Os gofynnir beth yw'r gwahaniaeth rhwng crediniwr ac anghrediniwr, rhaid ateb, medd Miles, mai yn y math ar ddameg a adroddir ganddynt y gwelir y gwahaniaeth. Crediniwr yw hwnnw sy'n derbyn y ddameg theistaidd. "Fel athronydd technegol ni pherthyn i mi ddweud ai'r ddameg hon yw'r un iawn i fyw arni; eithr fel dyn plaen nid oes gennyf ddim amheuaeth nad hi yw'r un iawn". Dyna ddisgrifio terfynau swyddogaeth athroniaeth mewn cysylltiad â chrefydd. Ni all hi brofi na gwrthbrofi; ni all hi gadarnhau na gwadu; ni all wthio'r drws ar agor na'i gau'n glep. Ar yr olwg gyntaf gallai'r geiriau a ddyfynnwyd awgrymu bod rhwyg ym mhersonoliaeth T. R. Miles, ond o ehangu'r gosodiad fe welir nad yw'r amgylchiadau mor arswydus â hynny. Er enghraifft, gellid dweud "fel gwyddonydd, neu lowr, neu ddiwinydd neu ehwarelwr technolegol ni pherthyn imi ddweud ai'r ddameg hon yw'r un iawn i fyw arni, eithr fel dyn plaen nid oes gennyf ddim amheuaeth nad hi yw'r un iawn". Yn sicr cyfarch y dyn plaen y mae crefydd, neu o leiaf dyna a wna'r Efengyl, nid cyfarch v gwyddonydd, neu löwr, neu athronydd, neu chwarelwr neu ddiwin- ydd. A'r dyn plaen sy'n gorfod dweud ei fod am fyw ar y ddameg theistaidd neu beidio. Rhaid i bawb, y crefyddol a'r digrefydd, ddewis ei ddamhegion a byw arnynt. Ac yn y pen draw, medd Miles, mater o benderfyniad neu argyhoeddiad personol ydyw pa ddameg a ddewiswn ni, nid m a'er y gellir ei setlo'n derfynol drwy ddadl neu ymresymiad. Ymddengys nad yw'r dyn sy'n llefaru drwy gydweddiad yn wahanol yn y mater hwn i'r dyn sy'n llefaru drwy ddamhegion. CYFROL CXXI. RIIIF 518. IONAWR 1966.