Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GEIRIAU Polonus What do you read, my Lord? Hamlet: Words, words, words. Y mae geiriau'n ymddangos yn bethau digon syml. Fe'u defn- yddiwn yn barhaus i ddynodi gwrthrychau ac i fynegi'n meddyliau a'n dyheadau, ein teimladau a'n bwriadau. Os dywedaf "Dacw gi", neu "Dyma gath", gall y neb a'm clywo, a bwrw ci fod yn deall Cymraeg, wybod fy mod yn cyfeirio, a'r swn a wnaf, at wrthrych sydd yn f'ymyl. A phe bawn yn sgrifennu'r geiriau, yn lle'u llefaru, byddai'r neb a'u darlleno, a bwrw ei fod yn deall ac yn darllen Cymraeg, yn gwybod yr hyn y ceisiaf ei fynegi a'r marciau a wnaf ar bapur. Y mae pedwar math o eiriau, medd Bertrand Russell yn ei Enquiry into Meaning and Truth, sef y geiriau a leferir, a'r geiriau a glywir; y geiriau a sgrifennir, a'r geiriau a ddarllenir. Dyna yw'r gair ynddo'i hun sŵn a wneir â'r genau, neu fare a roir ar bapur. Gwnaf y sŵn â'm genau, neu rhof y marc ar bapur, yn y gobaith y bydd yr hwn sy'n clywed y sŵn neu'n gweld y marc yn deall; hynny yw, y bydd yr un syniad a oedd yn fy meddwl i yn dyfod i'w feddwl yntau. Nid oes ystyr i air ar wahan i fwriad yr un sy'n ei ddefnyddio. Cyfyd anawsterau pan nad ydym yn sicr o'r hyn y mae'r geiriau yn ei olygu; dydyn ni ddim yn sicr beth ocdd ym meddwl yr un a ddefnyddiodd y geiriau. Gallwn ofyn iddo: "Beth wyt ti'n feddwl?" Gall yntau wedyn esbonio trwy ddefnyddio geiriau ychydig yn wahanol i fynegi'r un peth ag y ceisiodd ei fynegi o'r blaen. Y mae anawsterau'n debycach o godi pan sgrifennir geiriau na phan leferir hwy. Nid ydym bob amser yn sicr o'r pwyslais mewn brawddeg ysgrifenedig. Gall pwyslais gwahanol, neu hyd yn oed oslef wahanol, newid ystyr brawddeg. "Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog"; byddai pwysleisio fel hyn yn awgrymu nad oes dim allan o'i Ie mewn dwyn camdystiolaeth o blaid fy nghym- ydog! "Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog": byddai'r