Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YSGOLHAIG A'R BROFFWYDES Yr wyf wedi cael llawer o fwynhad wrth wylio ymateb y Cymry i enw William Owen Pughe. Ebychiad dirmygus yw'r ymateb mwyaf cyffredin, ac yna ymosod arno am lurgunio'r orgraff a llygru'r iaith, gan dadogi pechodau ieithyddol llawer o'i gyfoeswyr a'i ddilynwyr arno ef yn bersonol yn y broses. Y mae rhai yn cofio am ei Eiriadur trwchus a'i Ramadeg dryslyd, eraill am ei waith dyfalbarhaus yn paratoi testunau Dafydd ap Gwilym a Llywarch Hen a'i gyfraniad i'r casgliad enfawr hwnnw, The Myuyrian Archaiology of Wales. Ychydig iawn o bobl heddiw sydd wedi ymgodymu â'i gyfieithiad annarllenadwy o Paradise Lost Milton, a gwyr llai fyth am ei waith fel golygydd a chyfieithydd Fe'i cofféir yn bennaf am ei waith, ac ni ddengys neb ddiddordeb arbennig yn ei fywyd. Cymerir yn ganiataol mai rhyw fywyd meudwyaidd a dreuliodd yn bodio hen lawysgrifau ac yn hel defn- yddiau ar gyfer ei waith. Y mae'n wir iddo dreulio rhan helaeth o'i amser mewn llyfrgelloedd ac wrth ei lyfrau a'i bapurau, ond y mae ochr arall, annisgwyliadwy efallai, i'w fywyd. Y mae ei gefndir yn ddiddorol ynddo'i hun-cefndir bywiog Llundain yn amser y Rhaglywydd Dywysog. Cefndir di-Gymreig yw ar y cyfan, cefndir annisgwyl i frodor o Feirionnydd a gysegrodd ei fywyd i iaith a llenyddiaeth Cymru. Eithr y mae un agwedd ar ei fywyd yn fwy annisgwyl fyth, sef ei gyfathrach a'r broffwydes hynod, Joanna Southcott. Ceisiaf olrhain y berthynas hon a'r effaith a gafodd ar fywyd William Owen Pughe. Y mae'n rhyfedd gweld sut y daliwyd gwr deallus yn hualau hygoeledd ac ofergoel, a hynny yng nghyfnod y Chwyldro Ffrengig ac oes euraid rhesymoliaeth. Yr oedd William Owen Pughe yn un o ddeg o blant i ffermwr o Lanfihangel-y-Pennant, Sir Feirionnydd. Fe'i ganwyd ar 7 Awst, 1759. John Owen oedd enw'r tad, ac, nid yn annaturiol, William Owen oedd enw'r mab ar y dechrau. Dywedir iddo dderbyn ei addysg gynnar yn ysgol Henry Richard, un o'r tadau Methodistaidd, a thaid Henry Richard, "Apostol Heddwch". Y mae'n anodd taflu goleuni ar flynyddoedd ei ieuenctid, ond gwyddys iddo fynd i Lun- dain pan oedd yn ddwy ar bymtheg oed.