Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIDDORDEBAU CYFARFOD MISOL O droi cofnodion gwahanol Gyfarfodydd Misol y Cyfundeb Presbyteraidd, y mae dyn yn awr ac eilwaith yn gweld olion diddordebau o natur gymdeithasol eithaf eang; ac y mae cofnodion Cyfarfod Misol Arfon yng nghanol y ganrif ddiwethaf yn enghraifft eithaf teg o hynny. Ni bu'r Cyfarfod Misol hwn o'i ddechreuad heb ddangos diddor- deb mewn addysgu. Mor gynnar â Chwefror 1844 yr oedd yn cynorthwyo pregethwr o'r enw Hugh Roberts i fyned i'r 'Normal School' yn Llundain a phedair blynedd yn ddiweddarach, yn 1848, rhoes 6/- yr wythnos am hanner blwyddyn o amser i bedwar o wŷr at eu cynnal yn Ysgol y Bala. Yn 1852 penderfynodd 'ufuddhau' i ddymuniad Cymanfa'r Bala i wneud casgliad cyffredinol ymhob cynulleidfa yn Arfon tuag at ffurfio 'Trysorfa' er cynorthwyo gwyr ieuanc a oedd yn awyddus am fod yn ysgolfeistriaid ac am gael y 'Certificate of Merit' gan y 'Gyfeisteddfod Addysg' yn Llundain. Yn yr un flwyddyn, Cyfarfod Misol Arfon a gafodd y dasg o wein- yddu'r llog a ddeilliai oddi wrth swm o £ 130 19s. 4d. a adawodd un gwr at gynnal ysgol ddyddiol yng nghymdogaeth y Carneddi; a rhoes hefyd ganiatâd i aelodau Cefnywaun roddi f.5 o arian y seti at gynnal ysgol ddyddiol yn yr ardal. Yr oedd 1852 yn flwyddyn bwysig ar gyfrif arall hefyd oblegid dyna'r pryd y penderfynodd y Cyfarfod Misol roi £ 30 y flwyddyn am bum mlynedd o leiaf i Ebenezer Thomas fel 'cyflog' am gadw ysgol yng Nghlynnog; rhoed yr arian 'o drysorfa oedd eisoes mewn bod at addysg' a hynny ar y ddealltwriaeth fod cymdogaeth Clynnog hithau yn gwneud ei gorau at gynnal yr ysgol a>_ na fyddai ei chydnabyddiaeth yn llai na £ 10 yn y flwyddyn. Cymerid yn ganiataol y dysgai Ebenezer Thomas ddynion ieuanc a anfonid i'r ysgol gan y Cyfarfod Misol heb ddim tâl ychwanegol a'i bod yn ddyletswydd arno eu paratoi i fyned i ysgolion uwch neu athrofa. Yn Rhagfyr 1853 cafodd y Cyfarfod Misol wybodaeth fod Pwyllgor y Cyngor ar Addysg wedi pender- fynu helaethu cynorthwy llywodraeth at godi ysgoldai a chynnal ysgolion; anogwyd pob ardal ddi-ysgol o'r herwydd i 'ddeffroi' ac i sicrhau lleoedd i adeiladu ysgolion ac aeth y Parch. John Phillips