Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIAD "Hanes Rhyw Gymro", gan John Gwilym Jones. Cyhoeddir gan Gymdeithas y Cymric a Chymdeithas y Ddrama Gymraeg Coleg y Brifysgol, Bangor. Gwasg y Brython, Lerpwl, 1964, viii. 86 tt. Pris 10/6. Nid oes odid yr un llenor Cymraeg cyfoes sydd mor barod â Mr. John Gwilym Jones i adnewyddu ei nerth a'i ddoniau, mor esgud i ymglywed â rhinweddau'r gorffennol, mor ymwybodol hefyd o ragoriaethau a gwendidau'r presennol. Pe buasai yn un o'r llenorion hynny sy'n ceisio'u cyflwyno'u hunain i'r byd drwy gyfrwng y Saesneg neu'r Ffrangeg neu'r Almaeneg, nid oes nemor amheuaeth na fuasai ei waith yn cael ei ridyllio'n gariadus ers meitin, a'i gloriannu in aeternum gyda pharch a gofal gan haid sylweddol o efrydwyr Prifysgolion Ewrop ac America. Cyfrannodd yn haelionus at gynnyrch y ddrama gyfoes yng Nghymru. Cawsom ganddo hyd yn hyn bum drama lwyfan a dwy ddrama radio. Fel y dywed y Dr. Geraint Gruffydd yn ei ragair i'r gyfrol o dan sylw, 'does neb a wad nad yw'r cyfraniad ardderchog hwn o'r pwys mwyaf ac yn sicr ddigon yn ffurfio corff o waith y gallai unrhyw ddramodydd yn y byd fod yn haeddiannol falch ohono. Ond llenor Cymraeg yw Mr. John Gwilym Jones, ac felly un yn rhwym o gael ei drin a drafod gan feirniaid crintachlyd sydd bob amser yn haerllug o barod i ailadrodd ystrydebau lluddedig eu proffes yn ogystal â rhagfarnau traddodiadol ein cenedl a'n cefndir, rhagfarnau y bydd raid, yn y dyfodol, ein diddyfnu oddi wrthynt. Yn ddiamau, nid anodd canfod yr agendor rhwng Mousetrap Miss Agatha Christie a Gtfcr Llonydd Mr. John Gwilym Jones. Afraid hefyd bwysleisio'r gwahaniaeth mawr rhwng Y tad a'r mah a'r amryw gomedïau sydd wedi'n difyrru lawer tro yng Nghymru â stranciau rhyw Fili Bach Dwl a'i debyg, neu, yn amlach fyth, wedi ceisio cymryd arnynt gyn- hyrfu'n heneidiau â rhagrith gorgyfarwydd rhyw gapel a bro na welwyd erioed mo'u tebyg yr ochr yma i Glawdd Offa. Fel y dywedodd y myfyriwr diniwed, nid Racine yw Shakespeare wedi'r cwbl. Ac er bod y gymhariaeth yn un ffasiynol os nad anochel erbyn hyn, nid Mr. Saunders Lewis mo Mr. John Gwilym Jones, a diolch byth am hynny! Hir oes i amrywiaeth barn ac arddull; rhwydd hynt i ddatblygiad cymysg ein llenyddiaeth fodern! Mae yna resymau sylweddol dros gredu fod John Gwilym Jones i raddau helaeth o dan ddylanwad technegol Bertolt Brecht yn y ddrama hon. Fe welir yr un dechneg yn cael ci defnyddio yn Le Soulier de satin, campwaith Claudel (yn ddiau dramodydd mwyaf y cyfnod modern yn Ffrainc), a sgrifen- nwyd yn ystod y blynyddoedd 1919-24, pan nad oedd Brecht ond yn dechrau llenydda. Ond gellid yn rhwydd olrhain ei thras yn ôl i Shakespeare, a thrwy Shakespeare i ddramâu crefyddol yr Oesoedd Canol. Ceir yn Hanes Rhyw Gymro fel yn nramâu'r Almaenwr a fu gymaint mewn bri yn ystod y pymtheng mlynedd diwethaf, ddwy agwedd, dwy ffrwd a blethir ac a gymysgir gyda chelfyddyd ddihafal a grymuster cyson: yr agwedd epig, a'r agwedd delynegol;