Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD CYFROL CXXI. RHIF 519. EBRILL. 1966 SYR IFOR WILLIAMS Hafod loes yw'r Hafod Lwyd, Daeth awr alaeth i'r aelwyd. Wyla'r pîn; wele'r pennaeth Mwyn ei drem mewn derw a aeth. Dwys y dyfod o'i stafell, Gwae ni ei golli o'i gell! Syr Ifor ar elor wael, Doniau mud yn ymadael. Garw y braw, fel gwyro brig Derwen gadarn y goedwig. Trwy'i oes y bu'n arloeswr, I'w iaith a'i dalaith yn dŵr; Dal rhin di-ail yr heniaith, Dymuno dim ond ei waith. Dehongli hen lên ei wlad A'i chur hi o'i dechreuad Glewion rhyfeL a helynt Y gwŷr a aeth Gatraeth gynt Llu llawen, ac awen gaeth Aneirin yn ei hiraeth. Treiddio i'w hynt, a rhyddhau Canu iasol cynoesau: Cân i dduloes Cynddylan, A'i dv di-wely, di-dân; I ddolef Llywarch hefyd, Och, faith a chwerw ferw ei fyd Da'r hoffai, drwy hir drafferth, Chwilio. darganfod eu gwerth; A didor o gofio'r gwaith Ydyw dyled ei dalaith.