Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ifur, Priodor o gyff prydydd, A dyfodd o wastad ei ofid I'r brig dysgedig a'i wreiddiau'n gadarn. Ifor, Ei hiwmor a fyrlymai: Cellwair a gair namyn Gair y geiriau- Nobled oedd ei barablu diddan! Ifor, Ysgolor diesgeulus, Afieithus gan win hynafiaethau- Gweddw llên heb ungwr ei hengerdd. Darfu'r hoen a'r ymboeni, Hebddo'n awr y byddwn ni. Ni ddychwel o'i dawel dy, Ar undyn mwy ni wrendy. Mewn galar didrugaredd O fyddar, byddar yw'r bedd. Enwog ŵr, mor llawn ag oedd, Heb waith, heb iaith, heb ieithoedd, Heb groesaw, Farchog llawen, Y mae heb air mwy o'i ben. WlLLIAM MORRIS MOLI'R ATHRO IFOR Ifor, Doethor ein tafodieithoedd: Aroglai wynt llafar gwlad- Difarw iaith, iaith o'r frest. Ifor, Ei gyngor ni ddug angau (Ym mron âr ym Mrynaerau) "Tywyll fydd gau, golau gwir". HUW LLEWELYN WILLIAMS