Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Ifur,
Priodor o gyff prydydd,
A dyfodd o wastad ei ofid
I'r brig dysgedig a'i wreiddiau'n gadarn.
Ifor,
Ei hiwmor a fyrlymai:
Cellwair a gair namyn Gair y geiriau-
Nobled oedd ei barablu diddan!
Ifor,
Ysgolor diesgeulus,
Afieithus gan win hynafiaethau-
Gweddw llên heb ungwr ei hengerdd.
Darfu'r hoen a'r ymboeni,
Hebddo'n awr y byddwn ni.
Ni ddychwel o'i dawel dy,
Ar undyn mwy ni wrendy.
Mewn galar didrugaredd
O fyddar, byddar yw'r bedd.
Enwog ŵr, mor llawn ag oedd,
Heb waith, heb iaith, heb ieithoedd,
Heb groesaw, Farchog llawen,
Y mae heb air mwy o'i ben.
WlLLIAM MORRIS
MOLI'R ATHRO IFOR
Ifor,
Doethor ein tafodieithoedd:
Aroglai wynt llafar gwlad-
Difarw iaith, iaith o'r frest.
Ifor,
Ei gyngor ni ddug angau
(Ym mron âr ym Mrynaerau)
"Tywyll fydd gau, golau gwir".
HUW LLEWELYN WILLIAMS
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.