Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ATGOFION AM IFOR WILLIAMS I Anghenraid imi ar y dechrau yw dilyn y llwybr a ddilynais yn fy llyfr Gyda'r Blynyddoedd wrth gyfeirio at fy nghysylltiadau cynnar ag Ifor Williams ond y bydd fy nghamau dipyn yn fanach. Nid myfi o bawb sy'n gymwys i sgrifennu am Ifor Williams, yr ysgolhaig mawr mewn Cymraeg, yn ôl y cyfarwydd un o dri neu bedwar ysgolheigion Cymraeg mawr yr oesoedd, na wneuthum erioed ar y gorau ond codi ychydig friwsion a syrthiodd oddi ar eu byrddau. Eithr ym myd cyfeillgarwch y mae'r hanes yn wahanol. Daethom i fyd ein gilydd a'n tynnu at ein gilydd yn gwbl ddamweiniol ac annisgwyl. Cyn munud y cyfarfyddiad nid oeddym erioed wedi clywed gair y naill am y llall. Er mwyn deall yr amgylchiadau rhaid yw egluro ychydig ar drefniadaeth yr enwad y perthynaf iddo. Yn niwedd Awst 1911 yr oedd yn adeg y symud cyfnodol a Chylchdaith Tregarth wedi ei siomi o'i harolygwr. Yr oedd y gwr a addawsai fynd yno wedi ei ethol yn oruchwyliwr ein Llyfrfa ac am hynny yr oedd Tregarth heb weinidog. Yn y Felinheli yr oeddwn i, ond wedi fy ngosod yno am flwyddyn i lenwi adwy ac am hynny myfi oedd yr hawsaf i'w hepgor yn ddidramgwydd, a gosodwyd 6 yn Nhregarth. Yr oeddwn yn rhyfeddol o anfodlon i fynd yno am fy mod mor ieuanc a dibrofiad ac ni roddid byth yn Nhregarth ond gŵr canol oed a phrofiadol. Ac wedi mynd yno teimlais ar unwaith fod mur o ragfarn yn fy erbyn am yr un rheswm, — hwythau'n ddig oherwydd eu bychanu drwy anfon un a alwent yn llefnyn yno i ofalu am- danynt. Gwelwn hefyd y byddai'n lle digymdeithas iawn. Erbyn o'r naw i'r deg y nos byddai Tregarth megis dinas y meirw a thua chwech y bore megis cwch gwenyn. Mynd a dod trên bach y chwarel a benderfynai gyfodiad a gorffwysiad y bobl. Ac wedi dychweliad y trên bach yn yr hwyr byddai'n amser paratoi ar gyfer moddion yr addoldai, ac wedi dyfod oddi yno byddai'n tynnu at amser gwely. Ychydig a feddyliwn fod llanc yn Nhregarth a wnâi fy nhymor hwnnw yno yn dymor mwyaf rhamantus fy oes.