Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMCHWIL NEWYDD AM IESU HANES Y mae'r 'ymchwil newydd am Iesu hanes' yn ein hatgoffa ar unwaith am yr hen ymchwil honno y croniclir ei chwrs yng nghlasur Albert Schweitzer a adwaenwn wrth ei deitl Saesneg, The Quest of the Historical Jesus. Teitl y gwreiddiol Almaeneg, a gyhoedd- wyd yn 1906, oedd Von Reimarus zu Wrede (O Reimarus hyd Wrede), a'r rhain, wrth gwrs, oedd enwau y cyntaf a'r olaf o'r ysgolheigion y trafodir eu portread o Iesu hanes gan Schweitzer. Er i lyfr Schweitzer beri i'r hen ymchwil gloífì, nid ef a roddodd derfyn arni. Yn wir, y mae'r hen ymchwil am Iesu hanes yn dal i fynd yn ei blaen mewn rhai mannau, a hynny yn ôl rhagdybiaeth- au'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cymhelliad cryfaf yr hen ymchwil oedd yr awydd i fynd yn ôl y tu cefn i uniongrededd yr Eglwys at ddysgeidiaeth wreiddiol Iesu, a thrwy hynny ennill moddion i unioni gwyredd Cristionog- aeth eglwysig. Cyfeiriwyd sylw nid at Grist y Credoau, y Mab homo-ousios â'r Tad, ond at Iesu o Nasareth, yr athro crwydrol a'r ymgorfforiad o wirioneddau aruchel crefydd a moeseg. Dulliau'r ymchwil oedd y method beirniadol hanesyddol wedi ei gymhwyso at y Testament Newydd mewn llawn hyder y rhoddai ganlyniadau gwyddonol a gwrthrychol. Cymerwyd yn ganiataol fod gan yr hanesydd ddogfennau hanes yn yr efengylau, ac yn enwedig yn efengyl Marc, o'r un math â'r hanes gwrthrychol positifaidd y ceisiai ef ei ysgrifennu. Ymhellach, gan mor uchel y syniai ysgolheigion am y method gwyddonol tueddent i'w ddyrchafu yn athroniaeth, yn 'scientiaeth' a honnai allu esbonio'r cwbl o fywyd. Pob dim nad oedd yn gyson â'r scientiaeth hon, fe'i gwrthodid yn ddiymdroi, ac fe gynhwysai'r elfennau gwrthodedig hyn nid yn unig y gwyrthiol a'r goruwchnaturiol ond hefyd y profiad o ymgyfarfod dirfodol y caeir y gwyddonydd allan ohono gan ei safbwynt gwrthrychol. Felly cawn Renan yn ysgrifennu bywgraff- iad o Iesu ar y dybiaeth nad yw'r goruwchnaturiol ddim yn bod, a Kirsopp Lake yn trafod y dystiolaeth hanesyddol i atgyfodiad Iesu Grist yn ôl y rhagdybiaeth nad oedd dim dichon i'r atgyfodiad fod wedi digwydd yn y modd y cofnodir ef yn y Testament Newydd,