Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fel y dengys yr Athro Roberts yn y Rhagarweiniad (y bennod gyntaf), y mae'r pwyslais hwn yn derbyn ffrwyth beirniadaeth feiblaidd. Ond yr un pryd rhydd gyfle i'r Hen Destament lefaru drosto ei hun. Gynt, pan drafodid ei ddiwinyddiaeth, y diwinyddion cyfundrefnol a wnâi hynny, a gwthient gredoau'r wyddor honno arno. (Dyma hefyd a wneir gan y sawl a drafoda ei ddiwinyddiaeth o safbwynt y Testament Newydd.) Ond y mae i'r Hen Destament ei bwyslais crefyddol ei hunan, a thrwy gydnabod hynny y ma<e ei ddeall yn briodol. Yn y gweddill o'r penodau dangosir fel y gellir canfod y Sôn am Achub (neu Hanes yr Achub) yn y gwahanol draddodiadau a'r rhannau a geir yn yr Hen Destament. Cychwynnir â hanes y creu, fel y ceir nid yn unig yn Genesis, ond hefyd yn y Proffwydi, y Salmau a Llên Doethineb. Amcan y stori yw, nid cyflwyno adroddiad gwyddonol, ond cyhoeddi fod Duw yn dwyn trefn allan o anhrefn, yn datguddio ei oruchafiaeth ar dywyllwch ac anobaith. Duw yr Achubwr a'r Gwaredwr a welir yma. Cyhoeddir yr un gwirionedd gan yr Addoli a hanes y Cyfamod. Yn yr addoli rhaid cynnwys y geiriau a leferir, yr amrywiol ddefodau, gan gynnwys yr aberthu, a'r personau a gynnal yr addoli (yr offeiriaid). Nid ymgais dyn i gael gafael ar Dduw a chyflwyno rhodd iddo yw addoli, ond dyn yn ymostwng gerbron y Duw sydd trwy'r addoli yn cynnig iddo waredigaeth. Felly gyda'r cyfamod. Y peth pwysig yw gweld mai Duw sydd yn cynnig y cyfamod, rhodd Duw ydyw, a phan dderbynnir ef, yna daw heddwch i ddyn, sef 'cyfanrwydd', ffyniant yn ei holl fyw. Rhoddir tair pennod i sôn am y proffwyd, ei genadwri a'i waith. Ceir awgrym am y newid a ddaeth yn y syniadau am y proffwyd, yn arbennig perthynas y proffwydi â'r offeiriad a'r cwlt. "Dynion Duw yn cyfryngu bwriad- au Duw' ydynt. Hwy a ddiogelodd y traddodiad am Hanes yr Achub pan oedd y cwlt yn gwyro oddi wrth y gwir. Bu iddynt feirniadu'r cwlt, nid fel cwlt, ond am ei fod wedi peidio â phwysleisio hyn a ddylai, sef y Sôn am Achub. Pennod werth ei darllen a myfyrio arni yw honno ar 'Y Pregethu Proffwydol yn Achub'. Credwn ein bod yn gwneud cyfiawnder â hi pan ddywedwn mai'r pwyslais yw fod pregethu yn broffwydol pan gyhoedda allu achubol Duw i gyfarfod ag anghenion ei gyfnod. Gall weithiau fod yn gyhoeddi barn Duw, ond gall hefyd fod yn gyhoeddi adferiad a gobaith. Atgoffir ni hefyd nad geiriau'r proffwydi yn unig sy'n bwysig. Cyflawnant actau a gyhoedda, fel eu geiriau, y Duw sydd yn achub. Yn y cyswllt hwn ceir trafodaeth helaeth ar y proffwyd Hosea. Wedi'r drafodaeth ar y proffwydi, troir at Lên Doethineb, a dangosir eto fel y gellir canfod yr un pwyslais yn y math hwn ar ddysgu. Daeth nodwedd newydd i mewn, sef personoli Doethineb, ac yn y personoli hwn ceir cyfrwng i'r gallu achubol. Trafodaeth ar Apocaliptiaeth yw'r bennod 'Y Dadlennu yn Achub'. Llenyddiaeth yw hon ar gyfer amser cyfyngder, a chawn y 'Dehonglwr' yn defnyddio geiriau'r proffwydi a thraddodiadau'r genedl i gyhoeddi eto yn y cyfyngder fod Duw yn gweithredu i achub.