Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD FRANZ KAFKA Mae hi'n anodd meddwl am nofelydd a roddodd mwy o'i fywyd yn ei waith na Kafka;* nid allanolion ei sefyllfa ond yr hyn y mae ef ei hun yn ei alw'n "bortread o freuddwydfyd fy mywyd mewnol". Cyfieithu problemau'r hunan i dermau hanesiol yw prif gymhelliad ei ysgrifennu, er mai camgymeriad fyddai credu mai dyna unig ystyr y straeon gorffenedig. Ymgais sydd yma i bellhau anawsterau drwy eu disgrifio, fel y dywed ef ei hun eto "Mae dyn yn tynnu llun pethau er mwyn eu halltudio o'r meddwl. Math o gau llygaid yw fy straeon i'. Cau llygaid yn erbyn beth? Yn bennaf yn erbyn ei ymdeimlad o ansicrwydd ac o unigrwydd. Pan anwyd Franz Kafka yn 1883 'roedd mwyafrif mawr trigolion Prâg yn siarad Tseceg, a dyna oedd iaith ei dad a'i fam yn wreiddiol; ond Almaeneg oedd yr iaith a ddynodai lwyddiant cymdeithasol. Iddewon oedd ei rieni a phan ddechreuodd ei dad godi yn y byd fel masnachwr penderfynodd leddfu anfantais ei Iddewiaeth drwy ymuno â synagog Almaeneg a chael addysg gwbl Almaeneg i\v fab. Ac felly y bu. Hawdd deall ansicrwydd Franz o'i gefndir; gwadwyd llawer o'r cefndir Tsecaidd, ac eiddil ddigon oedd Iddewiaeth y teulu-yn ddiwedd- arach yn ei fywyd yr ymroddodd Kafka i ddysgu Hebraeg. Ac eto nid Almaenwr mohono. Fe welwyd yn y tridegau nad mater bach oedd yr ansicrwydd cefndir i deulu fel un Kafka; bu farw ei dair chwaer yn nwylo'r Natsiaid­Ottla, ei ffefryn, yn Auschwitz. Gwaeth nag ansicrwydd ei gefndir oedd yr anallu i gredu ynddo'i hun, wyneb yn wyneb â'i dad, ac felly, yn y blynyddoedd cynnar o leiaf, ei unigrwydd oddi mewn i\v deulu. Gŵr pender- fynol, dideimlad, gormesol oedd Hermann Kafka, gŵr wedi codi i safle o ddim byd ac am i'w blant gael gwybod hynny a'i gymryd fel patrwm iddynt eu hunain. Arthio ar Franz yn hytrach na siarad ag ef a wnâi, a beirniadu ei gyfeillion, gwawdio'i garwr- *Darlledwvd vn v gyfres Y Llenor yn Ewrop ar Raglen Cvmru'r B.B.C., 30 Tachwedd, 1965. CYFROL CXXI. RIÍIF 520. CORFFEWAF, 1966