Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDI OLAF W. J. GRUFFYDD 'Fu W. J. Gruffydd erioed yn fardd toreithiog. Daeth Ynys yr Hud a Cherddi Eraill o'r wasg yn 1923. Wedi hynny, ymddangos- odd cerddi newydd o'i waith o bryd i'w gilydd yn Y Llenor, ond 'dyw cyfanswm cynnyrch yr ugain mlynedd hyd 1944, pryd y gwelwyd ei enw wrth gerdd ('Wiliam Prys y Te') am y tro olaf, yn ddim ond tair cerdd ar ddeg. Cynhwyswyd pedair o'r rhain, sef 'Y Gwestai', 'Capten Huws yr Oriana', 'Cefn Mabli', a'r 'Tlawd Hwn', yn y gyfrol Caniadau a gyhoeddwyd gan Wasg Gregynog yn 1932. Casglodd Gruffydd ynghyd i'r llyfr hwn un a deugain o gerddi, 'y cwbl o'm gwaith prydyddol hyd at 1931', meddai, 'y carwn weled fy enw wrtho'. Ymddengys ei fod ers tro yn ymwybodol fod ei egni prydyddol yn pallu. Er hynny, dywedodd yn 1938 nad oedd wedi gorffen canu. T ffaith yw', meddai, 'fod yn rhaid i mi gael blynydd- oedd i wneud un gân yn awr'.1 Mewn gwirionedd, yr oedd ei awen wedi dechrau prinhau hyd yn oed cyn cyhoeddi cyfrol Ynys yr Hud. Y mae mwy na hanner y cerddi a argraffwyd yn y gyfrol honno yn perthyn i'r blynyddoedd cynnar cyn 1914, a gellir dosrannu'r gweddill yn daclus i ddau gyfnod cynhyrchiol byr, y naill yn 1917- 18 ar union derfyn y rhyfel mawr cyntaf (saith o gerddi), a'r llall yn 1920-23 (sypyn arall o saith cerdd). A barnu felly oddi wrth ei waith cyhoeddedig, yr oedd gyrfa brydyddol Gruffydd wedi pasio'i hanterth cyn iddo fynd i'r llynges yn 1915 yn drideg chwech oed, a'r rhan fwyaf o lawer o'i farddoniaeth yn gynnyrch y cyfnod cyn y^rhyfel. Pe baem yn derbyn y dyfarniad hwn yn ddiamod anfeirniadol, gwnaem gam dybryd â'r bardd. O ran maint ac amlder ei weith- garwch mydryddol y mae, wrth gwrs, yn ddyfarniad eithaf cywir, a byddai'n deg cydnabod hefyd fod rhai o gerddi mwyaf effeithiol Gruffydd, a rhai o'r cerddi mwyaf nodweddiadol o'i ddawn, yn perthyn i'r cyfnod cynnar. Ond y mae rhai o'i bethau gorau ar fydr yn gynnyrch y blynyddoedd cymharol grintach wedi'r rhyfel, ac y mae i'w gerddi olaf oll ddiddordeb arbennig nid yn unig am 1. 'Gair Personol', Tir Newydd, 12 (1938).