Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TUAG AT DDEALL RHAWD CREFYDD Carwn osod y broblem yn glir gan ddechrau trwy geisio esbonio dwy athrawiaeth estron yn nysgeidiaeth gynnar Bwdeiaeth. Nid yw'n syndod fod cryn ansicrwydd yn parhau o hyd ynglŷn â dehongli athrawiaethau cynnar y grefydd hon, er i genedlaethau o ysgolheigion amryddawn fyfyrio arnynt. Rhaid cofio fod astud- iaeth wrthrychol o grefyddau'r India a'r Dwyrain Pell yn ei babandod, a pherthyn dechrau'r ymdrech i gloddio trwy wreiddiau cymhleth Bwdeiaeth i ganol y ganrif ddiwethaf. Gwnaed hyn yn bosibl pan ddarganfuwyd y Theravada (Athrawiaeth yr Hynafiaid) a'r hen ysgrythurau Pali yn Ceylon. Nid yw'n hawdd i bawb ychwaith ddysgu a meistroli iaith estron, ddieithr, yn ddigon da i fedru cynhyrchu cyfieithiad teilwng. Gellir tybio i grefyddau'r India ddioddef llawer, yn y Gorllewin, o achos cyfieithiadau brysiog. Ffaith arall sydd efallai yn fwy arwyddocaol yn y cyswllt hwn yw gwreiddioldeb y grefydd dan sylw. Yn naturiol ddigon, y mae ganddi gysylltiadau â chyfundrefnau crefyddol eraill yn yr India, ond yn nhermau ei hathrawiaethau canolog, saif Bwdeiaeth, i radd- au pell, ar ei phen ei hun. Afraid yw dweud fod efrydwyr Hanes Crefyddau wedi dysgu llawer iawn o ffrwyth diwydrwydd enfawr Syr James Frazer, ac yn arbennig wedi dysgu gwerth cynhenid gwybodaeth gymharol. Nid yw dyn yn ynys, ac ni cheir crefydd heb amgylchfyd, ond ni bu pawb o ddilynwyr Frazer yn ddigon effro i'r peryglon a ddaw yn sgil y gwaith o gymharu crefyddau â'i gilydd. Dangosir hyn yn bur eglur yn Narlith Frazer 1951, The Problem of Similarity in Ancient Near Eastern Religions, gan H. Frankfort. Cyn dechrau cymharu, rhaid bod yn siwr o'r ffeithiau, neu fe haerir y feirniad- aeth y gwelir Helen hardd ymhob benyw, am fod y gwahaniaethau yn mynd ar goll yn y tebygrwydd. Priodol yw cofio'r rhybudd hwn wrth geisio ymdrin â gwreiddiau Bwdeiaeth sydd erbyn hyn wedi tyfu'n bren cadarn yn Ne a Dwyrain Asia. Bu meddwl crefyddol ac athronyddol yr India yn hynod o doreithiog, a thros dair mil o flynyddoedd ymddangosodd nifer helaeth o wahanol ysgolion a syniadau, ac yng ngŵydd y fath gyfoeth, nid hawdd