Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BYWYD DA Mae cyfoeth testun fel hwn* yn peri i leygwr gwadd betruso’n hir cyn mentro i'w drafod, nid yn unig am fod y pwnc yn un diwinyddol yn ei hanfod, ond am ei fod hefyd yn cwmpasu holl fwriad Cristnogaeth, gan mai delfryd y bywyd da yw holl amcan ein crefydd ni. 'Canys ei waith Ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu, i weithredoedd da, y rhai a rag-ddarparodd Duw fel y rhodiem ni ynddynt'. Yn naioni dwyfol y Crist hanesyddol y mae i ni drysor a goleuni, a thrwy ei neges drosgynnol Ef y cyfarwyddir ni i'r bywyd da. Crist fel person yw calon y gwirionedd yn y gymdeithas Grist- nogol, a phatrwm ei fywyd Ef fu map moeseg y Cristion dros y canrifoedd. cO Iesu byw, dy fywyd Di Fo'n fywyd yn fy mywyd i'. Mae gweithredoedd da'r credadun mor naturiol â ffrwythau'r pren da; ei ymddygiad yn ffrwyth ei grefydd. Fel y dywaid y Parch. J. R. Evans yn ei Ddarlith Davies, Cristionogaeth a'r Bywyd Da, "Pe gwrthodid awdurdod Crist mewn mater o ymddygiad a delfryd cymeriad, ni fyddai'r hyn sy'n weddill yn werth cweryla yn ei gylch". A meddai hefyd, "mae ei gymeriad Ef yn ymgorfforiad perffaith o'r bywyd da, ac yn ddarlun o'r bywyd da yn nhermau cnawd a gwaed". Dilynwch fi oedd y gwahoddiad crisialaidd o syml, ond ar gyfeiliorn yr aethom, ac eto heb golli golwg o'r delfryd ym muchedd y Sant. Nid y moesegwr, na'r athronydd, na'r dyn- garwr, nac ychwaith y diwinydd, ond y Sant yw arwr y gwir Cristion. Y Duw a addolwn yw ffynhonnell ein gweithredoedd da, ac fe'i hymgnawdolwyd ym mherson yr Iesu; cawn ninnau arlliw o'r daioni gwreiddiol ym mywydau rhinweddol gwyrda meidrol. Ni cheisiaf ddilyn thema arbennig y Parch. J. R. Evans yn hyn o beth, gan iddo eisoes gwmpasu diwinyddiaeth y pwnc yn feistrol- gar. Ond gan fod y testun yn un mor benagored, a chan fod diffyg *Rhan o anerchiad a draddodwyd yn Sasiwn y Gogledd, Llangollen, Medi 1965