Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BULTMANN A'R BEDWAREDD EFENGYL 1 Ym myd astudiaethau'r T.N. y mae enw Rudolf Bultmann yn gysylltiedig â'r ymdrech i "ddadfythu" a hefyd â dyddiau cynnar Beirniadaeth Ffurf.1 Yn ogystal, cyfieithwyd ei ddwy gyfrol ar Ddiwinyddiaeth y T.N. i'r Saesneg.2 Ond hyd yn hyn ni chafwyd cyfieithiad o'i waith pwysig ar y Bedwaredd Efengyl: Das Evangelium des Johannes (1959; argraffiad cyntaf 1941). Ymdrech yw'r ysgrif hon i ddisgrifio rhai o'r safbwyntiau yn y gyfrol honno, a thaflu golwg beirniadol drostynt. Y peth cyntaf sy'n taro dyn wrth agor yr esboniad yw'r "Cyn- nwys", sy'n dangos bod Bultmann wedi aildrefnu'r efengyl. Cred ef fod golygydd yr efengyl wedi ei gosod yn ei threfn bresennol yn ôl ei farn ei hun. Felly tasg gyntaf yr esboniwr yw ei haildrefnu yn ôl y drefn orau a mwyaf synhwyrol. Y mae'r ad-drefnu yn broses hynod o gymhleth. Y mae'n rhaid darganfod yr adnodau hynny sydd wedi eu hychwanegu gan y golygydd, a hefyd sicrhau bod rhediad y gwreiddiol yn llithrig a rhesymegol.3 Nid oes gofod yma i osod allan drefn Bultmann ar yr efengyl yn fanwl iawn. (Ceir argraffiad hwylus ohoni yn adolygiad B. S. Easton yn Journal óf Biblical Literature, cyf. LXV (1946), tt. 74-8.) Dyma'n fras y modd y rhennir yr efengyl ganddo: i, 1-18 y Prolog. i, 19-51 tystiolaeth Ioan Fedyddiwr. A. ii-xii datguddiad y gogoniant i'r byd. ii, 1-12 gwyrth gyntaf yr Iesu. ii, 13-22 glanhau'r deml. I. ii, 23-iv, 42 y cyfarfyddiad â'r datguddiwr. II. iv, 43-vi, 59, a vii, 15-24; viii, 13-20 y datguddiad fel barn. III. vii-x y datguddiwr mewn gwrthdaro â'r bvd. IV. x, 40-xii, 33; viii, 30-40; vi, 60-71 goruchafiaeth ddirgel y datguddiwr ar y byd. B. xiii-xx datguddiad y gogoniant i'r eglwys. I. xiii, 1-xvii, 26 ymadawiad y datguddiwr. II. xviii, l-xx, 29 y dioddefaint a'r Pasg. Ychwanegiad yw xxi. Un gwendid sylfaenol mewn unrhyw ddamcaniaeth fel un Bultmann yw nad oes dystiolaeth destunol o gwbl i gyfiawnhau 1. Am y nodiadau i'r erthygl hon gw. t. 138.