Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD YR ENAID CLWYFUS 'Rydw i'n disgwyl am rywun neu rywbeth ers misoedd, naci, ella ers wythnosau, mae'r ddau yr un hyd, a 'dydw i ddim yn cofio am bwy nac am beth. Mi fu Mari'r wraig yma ddoe, 'rydw i'n meddwl, ond 'dydw i ddim yn siwr iawn. Ond nid i disgwyl hi yr ydw i, achos mae hi yma bob dydd; 'dydi'r peth ydw i'n i ddisgwyl byth yn dwad. 'Rydw i'n cofio canu yn y capel, "Wrth f'enaid clwyfus trist", a minnau'n dymuno mwrdro'r codwr canu am weiddi'r geiriau. Peth tyner iawn yw'r enaid clwyfus trist, ond beth wyr y codwr canu am hynny, nac am drugaredd. Gair tlws ydi trugaredd, gair meddal fel y niwl sy'n llithro fel llen i lawr ochor y mynydd. Methu dallt yr ydw i fod peth mor ysgafn â niwl yn pwyso mor drwm ar fy mhen i. Ond mi wela i rwan, llais y codwr canu sydd yn i bwyso fo i lawr ac yn rhoi fy mhen i o dan y garreg lawr y bûm fn llechu odani wrth ddwad o'r ysgol ers talwm. Faint sydd er hynny? Tua hanner can mlynedd yn ôl. Mae'n well i ddyn fynd o'i go' pan mae o'n ifanc na phan mae o'n hen, achos 'does ganddo fo ddim llawer i'w gofio pan mae o'n ifanc, ond pan mae o'n hen, mae'r gorffennol yn ymestyn ymhell bell fel gweirglodd wair fawr, heb ddiwedd iddi, a gwynt ha' yn tonni ei gwair, a dyn yn cerdded trwyddi a dim ond i ben o yn y golwg. O fanno rywle y daeth wrth fenaid clwyfus trist. 'Roedden ni yn i ganu o y Sul dwaetha', naci, y Sul cyn imi ddwad i fan'ma, ac o hyd ac o hyd pan oeddwn i'n blentyn. Finnau'n meddwl mai at nhad 'roedd o'n cyfeirio, wrth i weld o'n cau'i lygaid ac yn morio canu, ac yntau wedi bod gartre o'r chwarel ers hydion, wedi cael i hitio efo cramen yn i ben, yn i enaid, nes oedd o'n glwyfus. Ond 'rwan 'does yna neb clwyfus yn y capel, maen' nhw i gyd yn cario'u bloneg ar du blaen eu boliau ac yn gweiddi canu ar dop i llais am yr enaid trist; ddim yn dallt o gwbwl, na, ddim yn teimlo, mae'i crwyn nhw fel croen, fel croen, na 'dydi croen yr un anifail CYFROL CXXI. RHIF 521. HYDREF, 1966