Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

llun ohonof i fy hun yn eistedd ar fainc yn disgwyl bws i fynd adre. Mi es allan at y domen dywod drannoeth, ac mi 'roedd rhywun wedi lluchio dwr am ben y tywod, lle 'roedd llun y tân, rhywun fel fi reit siwr, yn treio diffodd y tân, ond wedi gadael llun y babi. 'Rydw i wedi medru dwad allan o'r uffern yma am ryw ddeu- ddydd neu dri ar ôl i gilydd, a'm dychymyg yn mynd â fi yn ôl i orwedd ar wastad fy nghefn ar Fynydd y Foel ar ddiwrnod braf, yr awyr las faith uwch fy mhen, a minnau'n medru gweld plu'r gweunydd yn ysgwyd yn yr awel efo cil fy llygad, y cymylau ysgafn yn symud fel llongau bach ar hyd yr awyr, minnau'n ddedwydd heb fod yn poeni am ddim. 'Rwan mae'r deuddydd wedi mynd yn bedwar, ac mae'r heddwch yn newid i le, o'r mynydd i'm gardd yng nghefn y tŷ, cael eistedd ar y fainc a'r gwenyn yn symud i mewn ac allan i'r blodau, fel dyn heb siwrin, y su yn cymysgu â su'r ceir a redai'n ddi-dor ar hyd y stryd o flaen y ty, a swn Mari yn hwylio te yn y ty. Un diwrnod fe ddaeth rhyw dawel- wch imi wrth ddychmygu fy mod i'n ôl yn y Swyddfa, ac Olwen, y teipydd, yn dwad â phaned o de i mi yn y pnawn, a minnau'n ymlacio'n braf wedi dwyawr o blygu uwchben ffìgurau, ac yn gadael i'm meddwl lifo a llepian yn ddistaw ar ryw draeth. Hynny'n help imi gario ymlaen am ddwyawr arall, ac edrych ymlaen at gael mynd adre i ddarllen. Ond, dacw wyneb Mari yn nrws y ward, yn siriolach na dim unwaith. Mor braf fydd cael dweud wrthi heddiw fy mod i'n well. KATE ROBERTS Dinbych BARDDONIAETH NATUR BERSAIDD [NODYN. — Lluniwyd yr erthygl hon gan Miss Mehnmnise Syed, M.A., Dip.Lib. (Bombay), aelod o staff Llyfrgell Coleg y Brifysgol, Caerdydd. Bernais nad anniddorol fyddai chael yn ei diwyg Gymraeg er mwyn dar- llenwvr Y Traethodydd. Ar wahân i ddiddordeb cynhenid y pwnc, purion ydyw'n hatgoffa'n hunain am v tebygrwydd rhwng y qasida a'r cvwydd a'r awdl foliant yn Gymraeg; am drosiad Syr John Morris-Jones o benillion Omar Khayyâm; ac am waith yr ysgolhaig glew a thoreithiog hwnnw, T. Hudson Williams, ym maes yr Hen Berseg.] G.M.A. Ni ellir anwybyddu dylanwad natur a daearyddiaeth ar ffurfiad iaith gwlad. Nid yn unig y mae cyflawnder moddion byw wedi