Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWEINIDOG YN Y GYMDEITHAS GYFOES* Yn ystod y blynyddoedd diwethaf ymddangosodd toreth o erthyglau mewn cylchgronau crefyddol, a chyhoeddwyd amryw o gyfrolau ar y pwnc uchod. Prawf hyn ei fod yn bwnc perthnasol a phwysig i'r gweinidog a'i bobl. I ddechrau ceisiwn gymryd golwg fras a chyffredinol ar y gymdeithas gyfoes. Mae'n gymdeithas sy'n newid yn gyflym. Ystrydeb yw dweud bod gwynt cyfnewidiadau yn chwythu dros y byd heddiw. Chwyth gyda chryfder aruthrol dros wledydd y dyn melyn a'r dyn du, a theimlwn ninnau yng ngwledydd y dyn gwyn lawer o'i effeithiau. Digwyddodd chwyldroadau anhygoel yn yr Affrig ac Asia mewn amser cymharol fyr, a gwelwn ninnau gyf- newidiadau mawr ym mhatrymau bywyd yn y wlad hon. Digwydd dau chwyldro mawr o flaen ein llygaid heddiw, y chwyldro gwyddonol a thechnegol, a'r chwyldro dinesig neu fetropolaidd. Un o dermau poblogaidd y gymdeithas gyfoes yw techneg neu dechnoleg. Yn ôl E. R. Wickham yn ei lyfr Encounter with Moderti Society cymhwyso gwybodaeth wyddonol at ofynion bywyd beunyddiol yw ystyr technoleg. Nid yw hyn yn beth newydd, mae cyn hyned â dyn fel y dengys Emil Brunner yn ail gyfrol Christianity and Cwilisation. Yr oedd gan ddyn yr ogof yn y cynfyd cynnar ei dechneg, ac yr oedd gan ddynion yr Oes Garreg, yr Oes Haearn, a'r Oes Bres, hwythau eu techneg. Gwyddai Alun Mabon am dechneg ffarmio "mi ddysgais gan fy nhad grefft gyntaf dynolryw". Perthyn i bob crefft ei thechneg arbennig. Yr oedd gan chwarelwyr Arfon yn yr ardal lle magwyd fi eu techneg ar y clogwyni a phonciau'r chwareli, gwyddent sut i gael llechi o'r graig. Nid techneg fel y cyfryw sy'n newydd ond y cynnydd syfrdanol a ddigwyddodd mewn techneg o bob math o'r chwyldro diwyd- iannol yn y ganrif ddiwethaf hyd heddiw. Yn y gyfrol y cyfeiriwyd ati uchod mae gan Emil Brunner graff yn dangos y cynnydd hwn. O'r oesoedd cynnar hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg cydgerddai hanes dyn â datblygiad technegol, ond pan ddaeth y chwyldro diwydiannol rhoddodd datblygiad technegol lam anhygoel tuag i fyny, ac i fyny yr â o hyd gyda chyflymder aruthrol. Anerchiad a draddodwyd yn Undeb Athrofa'r Bala, Mai 1966.