Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HENRI PERRIN A CHENHADAETH YR EGLWYS Yn Hydref 1954 yn Ffrainc fe laddwyd gwr canol oed trwy ddamwain ar ei fotor beic. Ar y pryd teithiai i ganolfan lle dilynai gwrs i'w gymhwyso ei hun i fod yn drydanwr (electrician). Ond er bod ei neges yn ymddangos mor gyffredin, a'i ddiwedd mor ddamweiniol, gwyddai ei gyfeillion fod bywyd y gwr a laddwyd yn bwysig ac yn arwyddocaol ac aethant ati i gasglu'i lythyrau ac i ysgrifennu bywgraffiad iddo. Cyhoeddwyd y llyfr yn Ffrainc yn 1958, a chyfieithiad Saesneg ohono yn y wlad hon yn 1965, dan y teitl Priest and Worker, the autobiography of Henri Perrin. Wrth gyhoeddi hanes y gwr hwn gwnaeth ei gyfeillion gymwynas fawr â phawb sydd yn ymgodymu â chwestiwn cenhadaeth yr Eglwys yn yr oes bresennol, oblegid fe roddodd Henri Perrin ei fywyd i'r genhadaeth, a theifl ei arbrofion a'i brofiadau oleuni arni. Ganwyd Henri Perrin yn 1914 ac ni chafodd weld ei dad a laddwyd yn y rhyfel cyn ei eni ef. Yn 1938 ordeiniwyd Perrin yn offeiriad yn yr Eglwys Babyddol, ond y flwyddyn ganlynol galwyd ef i'r fyddin ac enillodd y Croix de Guerre. Pan oresgynnwyd Ffrainc gan yr Almaenwyr rhyddhawyd ef o'r fyddin a phender- fynodd ymuno ag urdd Cymdeithas yr Iesu (Jesuits). Yr oedd y ddisgyblaeth baratoadol yn un drwyadl a threuliai tua chwe awr y dydd mewn myfyrdod, a gweddi, 'trochfa wirioneddol mewn distawrwydd, mewn atgofio, mewn cymundeb dwys â Duw', meddai mewn un llythyr. Mewn llythyr arall dywedodd: 'I ddechrau darganfûm pa mor wan a thlawd ydwyf pa mor bwysig yw'r ewyllys i ddilyn Crist yn ei ddioddefiadau, o gariad ato Ef, gan ddymuno'r groes a'r dioddef, a'r darostyngiad o gariad ato Ef, fel i ymdebygu i'n Harglwydd'. Derbyniwyd ef yn aelod cyflawn o'r Gymdeithas yn 1951 ond yn y cyfamser cafodd brofiad a roddodd gyfeiriad newydd i'w fywyd. Yn 1943 dechreuodd yr Almaenwyr gludo llawer o weithwyr o Ffrainc i'r Almaen, gweithwyr dan orfod (forced labourers). Ni chaniatâi'r Almaenwyr i'r gweithwyr hyn gael cymorth caplaniaid, fel y gwnaent i'r carcharorion rhyfel. O ganlyniad aeth Henri Perrin fel llawer offeiriad arall i'r Almaen fel gweithiwr gyda'r gweithwyr. Llafuriai fel gweithiwr a gweithredai fel offeiriad yn