Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU R. M. Jones, Cymraeg i Oedolion, Cyfrol 1, Llyfr yr Atliro (Cwasg Prif- ysgol Cymru), 21/ Nodiadaur Dysgwr, 5/ Dyma lyfr arall ar ddysgu Cymraeg fel ail iaith gan Mr. Bobi Jones, aelod o staff Cyfadran Addysg Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, Cyfadran sy'n gwneud gwaith clodwiw ym maes arbrofi gyda dysgu Cymraeg fel ail iaith. Y mae Mr. Jones ei hunan wedi ymdaflu'n frwdfrydig i'r gwaith o ddarparu deunydd pwrpasol ar gyfer dysgu Cymraeg, fel y gwyr pawb a fu'n dilyn ei gyfres erthyglau yn Yr Athro ac a welodd ci gyfrol Cyflwyno'r Gymraeg, Llawhjfr i Athrawon Ail Iaith. Parhad o'r gweithgarwch hwn yw'r gyfrol dan sylw, sydd wedi ei chyhoeddi'n ddwy ran, sef yn llyfr ar gyfer yr athro a llyfr i'r dysgwr. A dwy gyfrol fel y rhain i'w helpu, dylai'r athro mwyaf dilewyrch fedru cynnal dosbarth yn ddigon llwyddiannus; yn wir, bydd dyled ar athrawon y Gymraeg i Mr. Jones am ganllaw mor ddigonol, ac am y cyfarwyddiadau manwl i'r athro yn Llyfr yr Athro. Y gwersi moel a geir yn Nodiadau'r Dysgwr, wrth gwrs, ac un anhwylustod a welaf fi ydyw nad yw'r gwersi'n cyd-ddigwydd yn y ddau lyfr ar yr un tudalennau. Er enghraifft, daw gwers XXIX ar dudalen 129 yn Llyfr yr Athro ac ar dudalen 61 yn Nodiadaur Dysgwr. Hoffais y llyfr hwn fel gwerslyfr, a'r ymgais—lwyddiannus, yn fy marn i—i beri i'r cystrawennau dyfu y naill allan o'r llall yn y dull diweddaraf o ddysgu iaith. Seilir y method ar y dull dwyieithog, dull y mae llawer o ganmol arno gan yr athrawon sydd wedi cael profiad ohono. Ar yr un pryd, y mae llawer o bethau yn y llyfr sy'n peri anesmwythyd i mi, rhai ohonynt yn gymharol ddibwys, eraill yn sylfaenol. Un peth cwbl annisgwyl ydoedd naws anghymreig llawer o'r brawddegau yn y gwersi, neu "anghymraeg" a bod yn fanwl gywir. Y mae R. M. Jones wedi dysgu Cymraeg mor feistraidd fel nad hawdd mwyach yw cofio mai un a'i dysgodd wrth draed athrawon ysgol a choleg ydyw yntau. Peth rhyfedd, felly, yw gweld y llyfr hwn yn frith o enghreifftiau digamsyniol o'r ffaith nad Cymraeg mo'i iaith gyntaf. Sylwer ar y rhain: Ar tt. 10 a 12 e.e., ceir gwegio rhwng ymgyfyngu at ac ymgyfyngu i. Yr olaf sydd gywir. td. 12. Cynghorir i'r athro, felly, ddarllen yn Ue Cynghorir yr athro, felly, i ddarllen. td. 13. geirfa Seisnigaidd yn lle geirfa Seisnig. Gair difriol yw Seisnig- aidd ond nid condemnio'r eirfa yw bwriad yr awdur yn y man hwn. t. 38. ymarfer y recordydd Gwell fyddai Defnyddio'r recordydd i ymarfer td. 41. ateb gyda'r enw yn lIe ateb gan ddefnyddio'r enw. td. 81. Yn ateb i'r cwestiwn Ydych chi'n clywed rhywheth? ceir Cwcw. Bum yn holi amryw o Gymry Cymraeg ynglyn â'r ateb ungair hwn^a chael