Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

os oes rhaid eu cael, dylid eu cyfyngu i'r meysydd hyn. Y maent yn fwy clogyrnaidd o'r hanner ar gyfer bywyd bob dydd na'r rhifolion traddodiadol. Meddylier am Mae'n un deg un o'r gloch a'r enghraifft hon ar d. 96 o Cymraeg i Oedolion mae'r rhain xjn un deg pump o sylltau a chwecheiniog i gyd. Mewn difri! Pymtheg swllt a chwech yw hyn i'r dienwaededig. Y gwir yw fod llawer o ffwlbri wedi ei draethu ar bwnc y dull Cymraeg o rifo, canlyniad ein parodrwydd i farnu popeth sydd gennym yn ôl safonau'r Sais. Cyn dweud-a gwneud-rhagor o ffolineb, da o beth fyddai inni graffu ar ddull y Ffrangeg neu'r Ddaneg neu'r Almaeneg o rifo; dulliau digon tebyg in dull ninnau, ond nad oes neb o siaradwyr yr ieithoedd hyn wedi gweld yn dda achwyn fod y rhifolion yn rhwystr i fathemateg ac yn anymarferol yn y byd modern. Ac yn sicr, ni ddaeth i ben neb newid y dull er hwylustod i ddysgwyr o unrhyw fath. Yn hytrach, bydd y dysgwyr-hyd yn oed Saeson! yn meistroli dull yr iaith o rifo yn gwbl ddiwenwyn. Ac mor wahanol i ni Cymry oedd y Danwr hwnnw y bíìm i un tro yn gwrando arno'n ymffrostio yn null y Ddaneg o rifo am ei fod, meddai ef, yn fawr help ar gyfer mathe- mateg! A chyffelyb oedd profiad yr arloeswr hwnnw ym maes addysg Gym- raeg, Jenkins, Sain Nicolas. Arferai ef ddysgu rhifyddeg trwy'r Gymraeg, gan ddefnyddio'r rhifolion traddodiadol Cymraeg, am mai ei farn resymol ef oedd mai ar y gyfundrefn addysg, nid ar y rhifolion, yr oedd y bai fod y Cymro'n cael anhawster i rifo yn ei iaith ei hunan. A'r canlyniad? Aeth plant Sain Nicolas i wneud eu rhifyddeg yn Gymraeg yn unig, am y rheswm, meddent hwy, fod y rhifolion cyfansawdd Cymraeg yn fwy o help na'r rhifolion Saesneg, a rhifyddeg yn haws, felly, yn Gymraeg. CEINWEN II. TIIOMAS Coleg y Brifysgol, Caerdydd H. D. Lewis (Gol.), Religious Studies, Cyf 1, Rhif 1, Hydref 1965. (Cam- bridge University Press). £ 10s. Bu disgwyl eiddgar am y cyfnodolyn newydd hwn, a bellach dyma'r rhifyn cyntaf wedi cyrraedd. Y mae'n rhifyn sylweddol wedi ei gynhyrchu yn ofalus ac y mae ei fformat yn ddeniadol. Eglurir yn y nodyn golygyddol mai pwrpas y cyfnodolyn fydd rhoi cyfle i wahanol ddiddordebau ysgolheigaidd mewn crefydd i gael mynegiant gyda'i gilydd o fewn yr un cloriau yn lIe bod ar wasgar mewn amrywiol gyfnodolion fel y buont hyd yma. Erthyglau o fyd athroniaeth crefydd a hanes crefyddau a geir yn y rhifyn cyntaf hwn, ond bwriedir cynnwys golygweddau eraill ar grefydd megis eiddo'r seicolegydd, y cymdeithasegydd a'r anthropolegydd. Disgwylir i'r cyfraniadau fod yn eglur a chryno. Nid yr un peth yw credu fod yna Dduw a chredu mewn Duw (neu yn Nuw), a'r gwahaniaeth hwn yw pwnc erthygl gyntaf y rhifyn gan yr Athro Emeritus H. H. Price. Y mae ef yn enwog am ei allu i gyflwyno ei syniadau,