Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fod i'w drafodaeth gysylltiad â chrefydd oherwydd ei pherthynas ag ateb y Tomistiaid i broblem poen. Dadleuant hwy na ellid cael byd perffaith oni chynhwysai bethau y gellid eu llygru, a bod yn rhaid i bethau felly fod yn llwgr rywbryd neu'i gilydd. Dangos gwyrni y dull o feddwl sydd y tu ôl i'r ail gymal yn y ddadl ydyw pwrpas Williams. Awn yn ôl i fyd hanes crefyddau drachefn gydag arolwg beirniadol E. G. Parrinder o drafodaethau diweddar ar y pwnc. Dengys bwysigrwydd, ac anawsterau, astudio crefydd- au'r dwyrain ac y mae'n credu ei bod yn bwysig, ac yn fater o frys, i Gristion- ogaeth a Hindwaeth ddeall ei gilydd yn well. Y mae H. P. Owen yn drwm ei feirniadaeth yn ei adolygiad ar lyfr Axel Hägerström, ac nid yw'r ddadl yn y paragraff olaf dros gynnwys y llyfr yn y Muirhead Library of Philosophy yn argyhoeddi. Paham tybed na chafwyd erthyglau o feysydd seicoleg, cymdeithaseg ac anthropoleg yn y rhifyn cyntaf i roi argraff well o ehangder diddordeb y cylchgrawn? Edrychwn ymlaen at weld erthyglau o'r meysydd hyn yn ym- ddangos yn y man. Dymunwn hir oes i'r cylchgrawn a gobeithiwn y cedwir at safon yr erthyglau gorau yn y rhifyn cyntaf. Bydd honno yn safon uchel. O. R. JONES Aberystwyth R. Meirion Roberts, Amryw Ganu (Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd). "Canu achlysurol", meddai'r awdur am ei waith ei hun, "ydyw canu'r gyfrol hon". A thinc ymesgusodi sydd yn y rhagair am na all y bardd ei ystyried ei hun yn "enau gwlad", am ei fod yn alltud nad yw'n canu o'r gymdeithas Gymreig na throsti, a'i farddoniaeth o'r herwydd yn methu â bod yn gyfraniad o bwys i lenyddiaeth ei wlad. A chofio am Rilke a D. H. Lawrence a Heine, heb son am Oronwy Owen a llawer prydydd arall a fu'n nyddu cerddi oddi cartre, ymddengys seiliau rhesymeg y ddamcaniaeth hon yn bur fregus. Y mae llawer gwedd bosibl ar y berthynas fywiol rhwng y bardd a'i gymdeithas, yn enwedig yn y byd sydd ohoni. Gall bardd o ran hynny fyw'n alltud yn ei wlad ei hun, ond, lle bynnag y bo, canu yn ôi rheidrwydd personol yw ei orchwyl ac nid ceisio cyfrannu i'r diwylliant cenedlaethol, beth bynnag yw ystyr hynny. Gwell i ddarllenydd y gyfrol hon fynd heibio i'r rhagair a chyrchu'r cerddi sy'n gwrthbrofi'n effeithiol ei honiadau gwylaidd. Canu achlysurol, mae'n wir, yw Amryw Ganu, a gwendid mwyaf Meirion Roberts fel bardd efallai yw nad yw'r achlysuron yn digwydd yn ddigon aml. Achlysurol yn yr ystyr fod yma lawer o ganu, er enghraifft, i gyfeillion, i'w llongyfarch neu i gyd- ymdeimlo â nhw neu i'w coffáu, a chanu hefyd, megis yn y gerdd 'Hen Athrawes', sy'n cipio ennyd o gyfeillach arhosol 0 law anorffwys amser. Mae'n debyg mai ar achlysur ymweld â'r lIe, neu wrth gofio efallai am yr ymweliad, y canwyd ambell ddarlun fel 'Golwg ar Fethlehem' neu 'Eglwys Walton', neu'r