Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

soned swynol i Lyn. Achlysurol neu beidio, y mae llawer o'r cerddi yn cyffwrdd â phrofiadau dynol dwys a pharhaol. Bardd y myfyrdod tawel yw Meirion Roberts, bardd gwâr a choeth, a boenir gan yr hollt ryfedd yn natur dyn a'i wanc ar y naill law am ddinistr ac am ddrygioni a'i allu ar y llaw arall i greu ceinder sy'n herio'i fwystfil- eiddiwch a'i farwoldeb ef ei hun. Cerdd ddiddorol iawn yw 'Y Ddraig', sy'n trafod rhin iachusol dysg a chelfyddyd a'r perygl enbyd i ddynion o'u gwadu a'u gwyrdroi. Y mae'r drwg a'r da, y gwenith a'r efrau, yn cydfodoli ynom bawb, ond nid chwerwder ac anobaith a ddysgodd y bardd yn ei alltudiaeth, eithr cariad a ffydd a thosturi. Ar hyd y daith gythryblus a adlewyrchir yn y cerddi hyn, tywynna ffydd bersonol Meirion Roberts yn gadarn a golau Ond wrth fy nhroed o gam i gam Mae'r ffordd yn wen yng ngolau'r fflam. A dysgodd hiraeth, wrth gwrs. Hiraeth am golli cymdeithas yr enaid hoff cytûn a fynegir yn y gerdd goffa hyfryd i'w hen athro, David Phillips, 'Dwyn i Gof'. Ond buasai profiad hwn wedi digwydd i'w ran petai wedi aros yng Nghymru. Dysgodd yr alltud weddau eraill ar hiraeth. Cawn adlais ar dro yng ngwaith Meirion Roberts o waith beirdd eraill, megis yn 'Hwyrnos Fedi', lle mae'r mesur a'r delweddau a holl naws y gerdd yn ein hatgoffa o 'Ddrudwy Branwen' Williams Parry. Ac eto, y mae'r gerdd hon rywsut yn arbennig iawn i'r awdur. Ei brofiad ei hun sydd yma, profiad alltud a wêl, pan gais fynegi ei hiraeth yn ei iaith ei hun, fod yr iaith honno'n gallu trawsnewid gwlàd estron yn dir cynefin. Ond pan ddylifa iaith Fy hiraeth dros fy min Brodora hi fy nhaith, A Chymreigeiddia'r ffin. Nid ei syniadau a'i brofiadau yn unig sy'n gwneud Meirion Roberts yn fardd o bwys. Y mae ei hyfrydwch yn yr iaith, yn ei seiniau a'i moddau, ei chynghanedd a'i chystrawen a chysylltiadau'i geiriau, yn tystio i'w gymeriad prydyddol. Ac y mae'r hyfrydwch hwn i'w glywed ar bob tudalen o'r gyfrol hon. Cefais i lawer iawn o bleser a mwynhad yn Amryw Ganu, a chredaf yn sicr y caiff pawb a'i darlleno. ALUN LLYWELYN-WILLTAMS E. T. Davies, Religion in the Indtistrial Recolution in South Wales (Cardiff University of Wales Press, 1965; tt. 202; 21/-). Cyfrol safonol a gwir angen amdani yw cyfrol ddiweddaraf y Parch. E. T. Davies, Rheithor Llangybi, Sir Fynwy, ac un o haneswyr amlycaf yr Eglwys yng Nghymru. Darlith Pantyfedwen am 1962 ydyw, ac ymdrin a wna â'r